Cymru i gyflawni un o brosiectau ffyrdd mwyaf y DU yr haf hwn
Wales set to deliver one of UK’s largest road projects this summer
Bydd un o brosiectau ffyrdd mwyaf, a mwyaf heriol yn dechnegol, y DU yn cael ei gwblhau yng Nghymru yr haf hwn.
Bydd y prosiect £1.4 biliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gwella hygyrchedd, yn lleihau amseroedd teithio, yn darparu gwytnwch a dibynadwyedd ychwanegol, ac yn gwella diogelwch ar y ffyrdd.
Ar ôl ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, bydd prosiect yr A465 (Hirwaun i Ddowlais) yn darparu 17.7km o ffordd ddeuol newydd, 6.1km o ffyrdd ymyl, mwy na 14km o lwybrau teithio llesol, 38 cwlfert newydd (strwythur sy'n sianelu dŵr heibio rhwystr), 30 o bontydd newydd a 28 wal gynnal.
Yn ogystal â chysylltu cymunedau drwy gysylltu'r Cymoedd, De a Gorllewin Cymru â Chanolbarth Lloegr a thu hwnt, mae'r cynllun hefyd wedi creu cyfleoedd sylweddol i'r economi leol, gan gynnwys:
- creu mwy na 2,000 o swyddi newydd gyda dros hanner y rhai sy'n cael eu cyflogi yn byw yn yr ardal leol
- cyflogi 158 o brentisiaid gydag ychydig llai na hanner ohonynt yn dod o'r Cymoedd, gan helpu i gefnogi hyfforddiant addysg a sgiliau
- cefnogi mwy na 66 o fentrau cymunedol
- gwario mwy na £200 miliwn yng nghadwyn gyflenwi'r Cymoedd
- darparu mwy na 22,000 awr o ymgysylltu â disgyblion
Yn ogystal â manteision economaidd, mae'r prosiect hefyd wedi creu cyfres o fanteision amgylcheddol. I liniaru’r effeithiau ecolegol, mae cyfres o fesurau wedi cael eu rhoi ar waith fel rhan o’r prosiect. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- adleoli rhywogaethau, fel y fadfall ddŵr gribog a glöyn byw britheg y gors a chreu cynefinoedd newydd i gefnogi’r rhain ochr yn ochr ag ystlumod, y pathew a’r gornchwiglen
- adleoli bonion wedi’u tocio ac uwchbridd o goetiroedd hynafol sydd wedi’u heffeithio gan y prosiect
- plannu mwy na 55,000 o goed a llwyni yn yr ardal leol gyda disgwyl i gyfanswm o 120,000 fod wedi eu plannu erbyn diwedd y rhaglen.
Wrth siarad ar ymweliad â phrosiect yr A465, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth allweddol i ni. Rydym wedi gwario £1 biliwn yn trwsio a gwella ein ffyrdd ers 2021, gan gynnwys mwy na £250 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'r prosiect hwn yn ddarn anhygoel o drawiadol o beirianneg ac yn enghraifft wych o sut y gall buddsoddiad wedi'i dargedu mewn seilwaith ffyrdd gyflawni ar sawl lefel, gan ddarparu swyddi i'r gymuned leol, gwella hygyrchedd, cefnogi addysg a sgiliau, ochr yn ochr â darparu buddion amgylcheddol.
"Mae wedi bod yn brosiect cymhleth, a heriol ar adegau, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan wrth ein helpu i gyflawni un o'r prosiectau ffyrdd mwyaf yn y DU."
Mae'r perchennog busnes teuluol, Tony Gibbons o Atlas Groundworks Ltd, yn esbonio sut mae'r prosiect wedi bod o fudd i'w fusnes:
"Mae wedi ein galluogi i uwchraddio ein gweithrediadau a chryfhau ein henw da yn y diwydiant adeiladu ymhellach. O ganlyniad i hyn, rydym wedi gallu creu cyfleoedd swyddi newydd i bobl leol a gwella ein sgiliau fel y gallwn ehangu ein gwasanaethau busnes. Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi bod yn rhan o'r prosiect arbennig hwn."
Ychwanegodd Tim Wroblewski, Cyfarwyddwr Cyswllt a Phrif Gynllunydd Amgylcheddol ar gyfer TACP (UK) Ltd:
"Mae'r prosiect yn effeithio ar gynefinoedd, rhywogaethau a thirweddau sensitif a thrwy gyfres o fesurau lliniaru arloesol ac arfer gorau rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod y prosiect yn gadael gwaddol gadarnhaol ar gyfer yr amgylchedd.
"Mae'n gyffrous gweld ein gwaith yn dechrau ffurfio, gyda bywyd gwyllt eisoes yn defnyddio'r cynefinoedd newydd rydyn ni wedi'u gosod yn eu lle."