English icon English

Cymru – y wlad gyntaf yn y DU i drwyddedu triniaethau arbennig fel tatŵio

Wales first in UK to implement licensing for special procedures like tattoos

Bellach, Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gael rheolau trwyddedu gorfodol ar waith i helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd wrth iddyn nhw gael triniaeth aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis, neu datŵio gan gynnwys colur lled-barhaol.

O heddiw ymlaen (dydd Gwener 29 Tachwedd), rhaid i ymarferwyr ac unigolion, sy'n gyfrifol am safleoedd neu gerbydau lle mae unrhyw un o'r pedair triniaeth arbennig hyn yn cael eu rhoi, gwblhau cwrs atal a rheoli heintiau ar gyfer triniaethau arbennig. Yn ogystal â hyn, rhaid i'w safleoedd a'u cerbydau fodloni safonau diogelwch llym, ymhlith meini prawf eraill.

Nod y mesurau newydd, a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru, yw lleihau'r risgiau o ran hylendid a diogelwch sy'n gysylltiedig â'r triniaethau arbennig hyn, fel heintiau a gludir yn y gwaed. Byddan nhw'n sicrhau mai dim ond ymarferwyr trwyddedig sy'n gallu gweithredu ac mai dim ond safleoedd a cherbydau cymeradwy sy’n cael eu defnyddio i roi triniaethau.

Mae mwy na 4,000 o ymarferwyr yn gweithredu yng Nghymru y bydd angen iddyn nhw gael eu trwyddedu, a thros 2,000 o safleoedd y bydd angen iddyn nhw gael eu cymeradwyo o dan y cynllun trwyddedu gorfodol newydd.

Rhaid i bob unigolyn wneud cais am drwydded a/neu dystysgrif gymeradwyo safle neu gerbyd gan ei awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys pob ymgeisydd newydd, yn ogystal â'r holl ymarferwyr a busnesau presennol sydd wedi'u cofrestru gyda'u hawdurdod lleol ar hyn o bryd, gan y bydd angen iddyn nhw gael eu hailasesu o dan ofynion y cynllun trwyddedu newydd.

Caniateir i'r unigolion hynny sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd barhau i weithredu tra bydd eu ceisiadau am drwydded neu dystysgrif gymeradwyo yn cael eu prosesu.

Bydd cofrestr genedlaethol yn rhoi cyhoeddusrwydd i bob deiliad trwydded ddilys a phob deiliad tystysgrif gymeradwyo yng Nghymru. Er y bydd y gofrestr hon yn fyw o heddiw ymlaen, dim ond wrth iddyn nhw roi trwyddedau a thystysgrifau cymeradwyo y gall awdurdodau lleol lanlwytho gwybodaeth i'r gofrestr. Bydd yn cymryd sawl mis cyn i'r gofrestr fod yn gynhwysfawr.

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Keith Reid: "Mae'r cynllun trwyddedu newydd hwn yn rhoi sicrwydd pwysig i unrhyw un sy'n ystyried cael triniaeth aciwbigo, electrolysis, tyllu'r corff, tatŵio neu golur lled-barhaol bod yr ymarferydd maen nhw'n ei ddefnyddio wedi'i drwyddedu a bod y safle neu'r cerbyd lle mae'r driniaeth yn cael ei rhoi wedi'i gymeradwyo.

"Mae'r cynllun trwyddedu gorfodol yn sicrhau bod cleientiaid ac ymarferwyr yn cael eu diogelu, ac rwy'n falch bod y mesurau wedi cael eu croesawu'n eang gan y diwydiant.

"Rydym am weld y triniaethau arbennig hyn yn cael eu rhoi mewn ffordd ddiogel a glân ac mewn amgylcheddau priodol, a bydd y cynllun trwyddedu yn rhoi sicrwydd bod y safonau priodol yn cael eu bodloni.

"Bydd gofynion y cynllun yn galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio dull cadarn a chyson o reoleiddio ledled Cymru, gan gynnwys pwerau mwy effeithiol i ddelio ag unrhyw un sy'n gweithredu'n anghyfreithlon."

Dywedodd Marie Lowe, perchennog Miss Rie's Tattoo Studio yng Nghasnewydd: "Mae'n newyddion da i'r diwydiant triniaethau arbennig bod y rheolau newydd hyn bellach ar waith. Byddan nhw'n bwysig wrth sicrhau bod pob ymarferydd ledled Cymru yn gweithredu yn yr un ffordd ac wrth sicrhau ein cleientiaid eu bod yn cael triniaeth gan berson trwyddedig mewn amgylchedd diogel a glân."

Dywedodd Ffion Haf Hughes, perchennog Little Wren Beauty & Aesthetics yng Nghaernarfon: "Mae'r cynllun trwyddedu tatŵio a cholur lled-barhaol newydd nid yn unig yn gwella safonau'r diwydiant drwy sicrhau lefel o ddiogelwch a phroffesiynoldeb, ond mae hefyd yn ennyn mwy o hyder ymhlith ein cleientiaid. Drwy gadw at y rheoliadau hyn, rydym yn gwella ein hygrededd a'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, a fydd yn elwa'r busnes a'n cleientiaid gwerthfawr yn y pen draw."

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r cynllun. Dywedodd Samantha Matthews, Pennaeth Nyrsio ar gyfer Atal a Rheoli Heintiau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn croesawu'r safonau hylendid gwell y bydd trwyddedu yn eu sicrhau. Bydd hyfforddi ymarferwyr ynghyd ag archwilio safleoedd yn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â thriniaethau fel tatŵio, tyllu'r corff ac aciwbigo. Rydym yn gobeithio y bydd hyn nid yn unig yn gwella safonau ac yn diogelu iechyd, ond hefyd yn cynnig sicrwydd i'r rhai sy'n cael triniaethau o'r fath."