English icon English

Cymru yn cyhoeddi datblygwr ynni adnewyddadwy sy’n eiddo cyhoeddus

Wales announces publicly-owned renewable energy developer

Heddiw, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi datblygwr ynni sy’n eiddo i’r wladwriaeth mewn ymateb i ansicrwydd ynni, yr argyfwng costau byw a’r bygythiadau cynyddol yn sgil yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Wrth siarad yn y Senedd y prynhawn yma, dywedodd y Gweinidog y bydd yr elw o ynni sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn sicrhau mwy o fudd i bobl yng Nghymru.

Bydd arian dros ben sy’n cael ei gynhyrchu drwy’r datblygwr newydd yn mynd yn ôl i’r pwrs cyhoeddus i’w ailfuddsoddi er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yng Nghymru a chreu swyddi ynni glân o ansawdd da sydd wedi’u datblygu yma.

Gan gyflawni amcanion i gael dros un gigawat o gynhyrchiant mewn dwylo lleol erbyn 2030, bydd y datblygwr ynni newydd sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn ehangu’r broses o gyflwyno ynni adnewyddadwy, yn y lle cyntaf drwy ddatblygu prosiectau gwynt ar y tir ar ystad coetir Llywodraeth Cymru.

Yn yr un modd â mannau eraill yn y DU, mae rhai prosiectau ynni adnewyddadwy ar ystad coetir Llywodraeth Cymru wedi cael eu datblygu gan ddatblygwyr ynni sy’n eiddo i’r wladwriaeth, sy’n golygu bod elw’n mynd yn ôl i’r gwledydd hynny.

Dywedodd y Gweinidog:

“Rydym am gynaeafu ein gwynt a’i ddefnyddio i gynhyrchu pŵer sydd o fudd uniongyrchol i bobl yng Nghymru.

“Byddwn yn sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy sy’n eiddo cyhoeddus. Mae hwn yn fuddsoddiad cynaliadwy hirdymor sy’n rhoi sero net a chymunedau Cymru wrth wraidd y cyfnod pontio sydd ei angen arnom.   

“Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ac mae ein dull gweithredu yn hollol groes i ddull Lywodraeth y DU sy’n canolbwyntio ar ffracio a thanwyddau ffosil – sy’n cael eu gwrthwynebu gan y mwyafrif o gymunedau ac sy’n anghydnaws â’n rhwymedigaethau rhyngwladol.”

Gan fod costau byw yn parhau i gynyddu ac yn sgil y diffyg sicrwydd parhaus ynghylch cyflenwadau ynni, dywedodd y Gweinidog fod y farchnad bresennol yn y DU yn “wael i dalwyr biliau”.

Mae sicrhau cymysgedd ynni dibynadwy ac amrywiol sy’n darparu budd lleol yn agwedd ganolog ar bolisi ynni Cymru.

Ychwanegodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Mae hon yn foment hanesyddol i Gymru. Mae’r argyfwng costau byw yn uniongyrchol gysylltiedig â’r cynnydd mawr yng nghost ynni, sy’n cryfhau’r angen am ddull gweithredu sy’n sicrhau mwy o fudd i bobl Cymru.

“Os yw gwledydd eraill yn gynsail o gwbl, yna dylem ddisgwyl elw sylweddol o’n buddsoddiad ac – wrth inni rannu uchelgeisiau’r cenhedloedd eraill hyn - mae gennym gyfle gwirioneddol i gynhyrchu incwm a fydd wir yn ein helpu i gyflawni yma.

“Rydym yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau sero net mewn ffyrdd sydd o fudd i’n cymunedau.”