English icon English
Campaign Imagery - RESPONSIVE AD 1080x1080 1-2

Cymru yn dechrau cyfrif y dyddiau at roi terfyn ar gosb gorfforol i blant

Wales begins countdown to end the physical punishment of children

Gyda chwe mis i fynd nes i ddeddf newydd sy'n rhoi terfyn ar gosb gorfforol i blant yng Nghymru ddod i rym, mae mwy na £2.9m yn cael ei fuddsoddi mewn cefnogaeth i fagu plant. 

Mae Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yn rhoi’r un amddiffyniad i blant rhag ymosodiad ag oedolion drwy gael gwared ar amddiffyniad cyfreithiol hynafol 160 oed.

Bydd y gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr, o 21 Mawrth 2022 ymlaen. Bydd pob math o gosb gorfforol, fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd, yn anghyfreithlon.

Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth bwysig hon, bydd ymgyrch hysbysebu amlgyfrwng ledled y wlad - o'r enw Sŵn Newid - yn cael ei lansio yfory.

Bydd y £2.9m, dros bedair blynedd, ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru i gyllido cefnogaeth magu plant gadarnhaol. Bydd yn golygu, mewn achosion lle mae'r heddlu'n credu ei bod yn briodol cynnig datrysiad y tu allan i'r llys, y bydd opsiwn o gynnig cefnogaeth i helpu i osgoi aildroseddu. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae’r wythnos hon yn nodi’r dechrau ar gyfrif y chwe mis nes i ni symud tuag at y diwrnod pan fydd gan blant yng Nghymru’r hawl gyfreithiol i gael eu hamddiffyn rhag pob math o drais, waeth pa mor fach.

“Rydw i wedi ymgyrchu ers degawdau lawer dros y newid hwn yn y gyfraith ac rwy’n falch iawn y bydd Cymru yn ymuno yn fuan â mwy na 60 o wledydd eraill ledled y byd sydd wedi gwahardd defnyddio cosb gorfforol tuag at blant.

“Yn gwbl allweddol i hyn mae darparu’r wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth angenrheidiol i rieni i helpu i reoli ymddygiad eu plant heb droi at gosb gorfforol.

“Bydd ein hymgyrch yn cyfeirio rhieni at gefnogaeth rydym eisoes yn ei darparu drwy ein hymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo, ymwelwyr iechyd, a'n rhaglenni cymorth i deuluoedd, gan gynnwys Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.

“Ond rydyn ni wedi mynd gam ymhellach ac rwy’n falch o gyhoeddi pecyn cyllido newydd ar gyfer cefnogaeth magu plant ychwanegol wedi’i theilwra, fel opsiwn adsefydlu yn lle erlyn mewn achosion lle mae’r heddlu’n gysylltiedig.

“Bydd y gefnogaeth hon, a ddarperir gan awdurdodau lleol, wedi’i chynllunio i annog a chefnogi rhieni i fabwysiadu technegau magu plant cadarnhaol wrth ddatgan yn gwbl glir bod cosbi plant yn gorfforol yn annerbyniol ym mhob amgylchiad.”

Ychwanegodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig ar gyfer hawliau plant yng Nghymru ac ni all ddod yn ddigon buan. Rwy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth hon yn llwyr gan nad oes lle i gosbi corfforol yng Nghymru na’r trawma tymor hir a achosir i blant o ganlyniad iddo.

“Rwy’n falch o weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn codi ymwybyddiaeth o’r gyfraith newydd hon ac yn hyrwyddo technegau magu plant cadarnhaol. Yn syml, nid yw cosb gorfforol yn gweithio fel ffordd o ddisgyblu plant. ”

Dywedodd Jonathan Griffiths, llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru:

“Yn ystod y chwe mis nesaf rydym eisiau gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a phartneriaid diogelu lleol ym mhob rhanbarth yng Nghymru i sicrhau bod pob rhiant a gofalwr yn dod yn ymwybodol o'r gyfraith cyn iddi ddod i rym y flwyddyn nesaf.

"Nid yw magu plant yn hawdd, ond mae ffyrdd effeithiol o ddisgyblu plant ar gael heb orfod defnyddio cosb gorfforol."

Nodiadau i olygyddion

The Deputy Minister for Social Services is available for Interview on Monday 20th, please contact Rachel.Bowyer@gov.wales.

The Children’s Commissioner Sally Holland is also available to be interviewed, please contact rebecca@cambrensis.uk.com

The Joshua family from our case study are also available for filming opportunities on Monday, please contact rebecca@cambrensis.uk.com  

The television adverts can be viewed here: English: https://youtu.be/A42E9UDCk4g Welsh: https://youtu.be/eeAbpjrSwr0

Quotes from organisations supporting the change in law are attached.

Campaign imagery is also attached.

 

In January 2020, the Senedd passed the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Act 2020. Its overarching aim is to help protect children’s rights and give all children in Wales the best start in life.

The Act received Royal Assent on 20 March 2020 and it will come into force on 21 March 2022.

The law does not create a new offence – it removes a 160-year-old legal defence, which sent the message that it was acceptable for children to be physically punished by their parents or those with parental authority. Over the years legislation has limited the circumstances where the defence could be used and limited the settings where children can be physically punished.

Physical punishment has been outlawed in schools, children’s homes, local authority foster care homes and childcare settings.

Physical punishment is when physical force is used to punish a child. Smacking is most commonly thought of as physical punishment but it can take many forms, including hitting, slapping and shaking.

Attitudes towards physical punishment have changed – fewer parents and guardians of young children in Wales today support physical punishment. What was seen as acceptable 30 years ago is less so now.

The United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC) is the basis for the Welsh Government’s policy on children. Prohibiting the physical punishment of children is in accordance with article 19 of the UNCRC – the right to protection from all forms of violence. Once the law comes into force, Wales will join more than 60 nations worldwide, which have outlawed physical punishment towards a child.

The funding announced today comprises up to £500,000 preparatory funding for local authorities in 2021-22 and up to £810,000 per annum for the following three years, for delivery of bespoke parenting support.

More information about the legislation can be found at: gov.wales/endphysicalpunishment  

More information about positive parenting, including resources to help parents, is available at Parenting. Give it Time: gov.wales/giveittime