English icon English
Economy Minister at Wales Stand, Paris Air Show 2023 1-2

Cymru yn rhagori yn Sioe Awyr Paris

Wales flying high at Paris Air Show

Heddiw yn Sioe Awyr Paris, mae Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru yn chwifio’r faner ar ran cwmnïau awyrofod Cymru. Mae hefyd yn achub ar y cyfle i hybu cwmnïau sydd â diddordeb mewn buddsoddi yn y DU i ddewis Cymru yn lleoliad ar eu cyfer.

Mae ymweliad deuddydd o hyd y Gweinidog yn cyd-fynd â’r flwyddyn Cymru yn Ffrainc sef digwyddiad blwyddyn o hyd gan Lywodraeth Cymru i ddathlu’r cysylltiadau hanesyddol sydd rhwng Cymru a Ffrainc.

Sioe Awyr Paris yw’r digwyddiad awyrofod mwyaf yn y byd sy’n denu dros 2400 o arddangoswyr o 49 o wledydd a 139,000 o ymwelwyr masnach o 185 o wledydd.

Mae Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu ym maes awyrofod a gweithgareddau cysylltiedig o ran cynnal a chadw, atgyweirio ac archwilio gyda dros 160 o gwmnïau yn cyflogi dros 23,000 o bobl ledled y wlad sydd gyfwerth â 10% o ddiwydiant awyrofod y DU.

Mae gan bump o’r 10 cwmni awyrofod ac amddiffyn gorau yn fyd-eang bresenoldeb amlwg yng Nghymru gan gynnwys Raytheon, GE, Airbus, General Dynamics a Safran. Mae eu cyfleusterau sydd o’r radd flaenaf yn cynhyrchu, cyflenwi, cynnal, atgyweirio ac archwilio cerbydau awyr o bob cwr o’r byd.

Mae Cymru hefyd yn gartref i ymchwil blaenllaw yn fyd-eang sy’n cefnogi’r sector Awyrofod a’i broses bontio tuag at Sero Net erbyn 2050. Mae hyn yn cynnwys ymchwil mewn 8 prifysgol ac yng Nghanolfannau Catapwlt Ymchwil a Datblygu yn AMRC Cymru yn y Gogledd a’r Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn y De.

Mae gan Lywodraeth Cymru bafiliwn yn Sioe Awyr Paris er mwyn hyrwyddo gallu Cymru ym maes awyrofod a’r gofod i gynulleidfa fyd-eang.

Mae amserlen y Gweinidog yn y sioe yn cynnwys cyfarfodydd gyda rhai o gwmnïau awyrofod mwyaf blaenllaw y byd, gan gynnwys Airbus, Thales, GE, Triumph a Safran.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“Mae’r sector awyrofod yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru gan gyflogi degau o filoedd o bobl ledled y wlad. O’r adenydd sy’n cael eu gweithgynhyrchu gan Airbus yn y Gogledd hyd at y dyfeisiadau newydd uwch-dechnoleg gan Thales a Safran yn y De, rwy’n falch iawn bod ein cwmnïau awyrofod yn arwain gweithwyr yn eu meysydd.

“Mae presenoldeb Cymru yn Sioe Awyr Paris yr wythnos hon yn ein galluogi i arddangos ein diwydiant i gynulleidfa fyd-eang. Mae fy neges i’r gynulleidfa honno yn glir – mae Cymru yn lle gwych i fuddsoddi ynddi ac mae Llywodraeth Cymru yn llywodraeth sefydlog ac yn bartner dibynadwy i fusnesau sy’n awyddus i’w dyfodol fod yn rhan o ddyfodol Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chynrychiolwyr o’r diwydiant a gwneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo Cymru a’n cryfderau a’n doniau eang i’r byd.”

Mae’r sector awyrofod yng Nghymru yn ddiwydiant twf dynamig sy’n gweithredu ar dechnegau arferion gorau ac sy’n cael ei gefnogi’n uniongyrchol gan Awyrofod Cymru.

Yn gymdeithas fasnach ar gyfer pob cwmni sy’n gweithredu yn y sector awyrofod ac amddiffyn yng Nghymru, mae Awyrofod Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo gallu Cymru yn fyd-eang, hwyluso cyfleoedd cydweithio a rhwydweithio yn ogystal ag annog a chefnogi cyfranogi mewn digwyddiadau rhyngwladol mawr.

Mae gan Gymru gysylltiadau cryf â Ffrainc:

  • Mae 80 o gwmnïau o Ffrainc yng Nghymru yn cyflogi dros 10,000 o bobl.
  • Ffrainc yw trydydd mewnfuddsoddwr mwyaf Cymru. Dros yr 8 mlynedd diwethaf, mae buddsoddiadau gan gwmnïau o Ffrainc wedi creu dros 1,700 o swyddi newydd yng Nghymru ac wedi diogelu dros 6,400 o swyddi.
  • Mae Ffrainc hefyd yn bartner allforio arwyddocaol. Sicrhawyd allforion gwerth dros £1.5 biliwn o Gymru i Ffrainc yn 2022 gan wneud Ffrainc y bedwaredd gyrchfan allforio fwyaf ar gyfer nwyddau o Gymru.

DIWEDD