Cymru yn ymestyn profion COVID-19 drwy gydol mis Gorffennaf
Wales extends COVID-19 testing throughout July
Heddiw (dydd Gwener 24 Mehefin), mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi cadarnhau y bydd profion LFD am ddim yn dal i fod ar gael yn awr yng Nghymru tan 31 Gorffennaf 2022.
Bydd profion ar gael i'r cyhoedd sy'n dangos symptomau o’r coronafeirws (tymheredd uchel, peswch cyson sy’n newydd, newid yn eu synnwyr o arogl neu flas neu eu colli yn llwyr), a bydd profion hefyd ar gael am ddim i bobl sy'n ymweld â rhywun sy'n gymwys i gael triniaethau newydd ar gyfer COVID-19. Bydd cartrefi gofal hefyd yn parhau i gael profion am ddim i ymwelwyr.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cynnydd mewn achosion, gydag arolwg diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi cynnydd mewn achosion ar draws y DU. Amcangyfrifir bod gan 1 o bob 45 o bobl yng Nghymru COVID-19 ar hyn o bryd.
Mae ymddangosiad is-amrywiolion BA.4 a BA.5 hefyd yn cyfrannu at y cynnydd hwn wrth iddynt ddod yn fwy amlwg ledled y DU.
Mae'r Gweinidog Iechyd hefyd wedi cyhoeddi y bydd y profion canlynol yn parhau i fod ar gael –
- Profion LFD a PCR ar gyfer y rhai sy'n gymwys i gael triniaethau ar gyfer COVID-19
- Profion PCR ar gyfer COVID-19 a feirysau anadlol eraill ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal a charcharorion symptomatig
- Profion PCR ac LFD o dan y fframwaith profi cleifion ac yn unol â chyngor clinigol, gan gynnwys cleifion ysbyty cyn iddynt gael llawdriniaeth a phreswylwyr cartrefi gofal sy'n dychwelyd ar ôl cyfnod fel claf mewnol yn yr ysbyty
- Profion LFD ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol symptomatig
- Profion LFD ddwywaith yr wythnos ar gyfer cynnal profion asymptomatig i staff iechyd a gofal cymdeithasol
Dylai'r rhai sy'n ymweld â phobl mewn cartrefi gofal barhau i brofi gan ddefnyddio profion a ddarperir gan y cartref gofal y maent yn ymweld ag ef.
Bydd y taliadau hunanynysu o £500 yn dod i ben ar 30 Mehefin 2022, ond bydd y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol yn cael ei ymestyn tan 31 Awst 2022 i gefnogi staff gofal cymdeithasol i gadw draw o'r gwaith os byddant yn profi’n bositif.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae profion wedi bod arf effeithiol i dorri'r gadwyn drosglwyddo, ac oherwydd y cynnydd mewn achosion mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gynnal profion er mwyn diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Fel y gwelsom o'r blaen, gall Covid newid yn gyflym, ac rwy'n cyhoeddi'r estyniad hwn mewn ymateb i’r sefyllfa sy’n newid, a’r amrywiolion newydd sy'n peri pryder.
Rwy’n gofyn hefyd i bobl gymryd camau diogelu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned, drwy wisgo masgiau mewn lleoliadau iechyd a gofal, aros gartref os byddwch yn cael prawf positif, a manteisio ar y cynnig i gael brechlyn. Rydym yn gwybod mai'r brechlyn yw'r ffordd orau o amddiffyn eich hun, ac rwy’n annog y rheini sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn i fynd i’w gael os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes. Mae’r pigiad atgyfnerthu ar gael tan 30 Mehefin.
Nid yw Covid wedi diflannu, er ein bod yn dysgu byw'n ddiogel gydag ef. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac, fel yr ydym wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i Ddiogelu Cymru.”