Cymru yw seren y sgrin y gaeaf hwn wrth i economi greadigol Cymru ffynnu
Wales star of the screen this Winter as Welsh creative economy booms
Bydd y ffilm ddilyniannol gan LucasFilm i Willow y bu cymaint o ddisgwyl amdani yn taro’n sgriniau ar 30 Tachwedd. Mae’n un o’r gyfres o gynyrchiadau sydd wedi’u ffilmio yng Nghymru gyda chefnogaeth Cymru Greadigol.
Gyda chynyrchiadau mawr eu bri gan stiwdios mwya’r byd yn cael eu gwneud yng Nghymru, mae Cymru Greadigol yn datgan bod brandiau fel Lucasfilm, Netflix a Bad Wolf wedi denu dros 22 o brosiectau a chyfrannu dros £155.6m i’r economi leol ers sefydlu Cymru Greadigol yn 2020.
Cafodd y wreiddiol ei ffilmio yng Nghymru dros 30 o flynyddoedd yn ôl a bydd y gyfres newydd yn dangos rhai o fannau cudd mwyaf hudolus y wlad – gan gynnwys pentrefi tlws, adfeilion canoloesol ac un o draethau hira’r byd.
Dywedodd Lynwen Brennan, Is-Lywydd Gweithredol LucasFilm, yn ddiweddar am ffilmio Willow yng Nghymru: “Mae’r diwydiant ar ei anterth ar y funud ac mae gan Gymru gyfuniad rhyfeddol o asedau. Mae gennym gyfleusterau llwyfannu eithriadol, tirweddau hardd a thalentau mawr. Ac wrth gwrs, a finne’n Gymraes, roedd hynny’n beth gwych i’w weld.”
Mae cwmnïau cynhyrchu a ffilm rhyngwladol yn hyderus y bydd Cymru’n gallu cystadlu ar lwyfan y byd oherwydd y dewis anferth o leoliadau ffilmio sydd gennym, ynghyd ag 822,705 tr sg o ofod mewn saith stiwdio ar draws y wlad, a gweithlu dawnus.
Mae sgiliau a hyfforddiant yn flaenoriaeth i Gymru Greadigol ac mae arian wedi’i fuddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi a gwella sgiliau ym mhob rhan o’r sector. Wrth gynhyrchu Willow, creodd Cymru Greadigol gyfleoedd i 25 o bobl dan hyfforddiant i fynd ar leoliadau cyflogedig mewn rolau pwysig, a darparodd arian ychwanegol i wneud setiau’n fwy hygyrch ac i helpu gyda lles meddwl.
Dywedodd Lynwen Brennan: “Yr un yw ein hamcanion ni [Lucasfilm] â rhai Cymru Greadigol. Rydyn ni am i’r diwydiant dyfu; rydyn ni am i’n set sgiliau dyfu. Mae yna lawer iawn o opsiynau yn y diwydiant ffilm, pa beth bynnag yw’ch set sgiliau. Pa beth bynnag yw’ch diddordebau, mae yna le fwy na thebyg i chi yn y diwydiant ffilmiau. Curwch ar y drws yna’n gyson. Mae lle i chi ac mae’r lle hwnnw i chi yng Nghymru.”
Gyda gwaith saethu ffilmiau drudfawr fel Havoc newydd ddod i ben a chyfresi sydd wedi’u gwneud yng Nghymru fel Willow, His Dark Materials 3 a phedwaredd gyfres Sex Education ar fin cyrraedd ein sgriniau, mae’r economi greadigol leol yn tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig, mae Sgrin Cymru, gwasanaeth lleoliadau Cymru Greadigol, wedi cael dros 900 o ymholiadau gan griwiau a chwmnïau teledu sydd am fanteisio ar gyfleusterau ardderchog y wlad.
Yn 2021 yn unig, gwelodd sector sgrin Cymru drosiant o £575 miliwn, cynnydd o 36% ers y blwyddyn cynt. Mae Adroddiad Sgrin Sefydliad Ffilm Prydain yn dangos bod buddsoddiad cyrff fel Cymru Greadigol mewn ffilmiau wedi esgor ar naw gwaith y cynnydd yn allbwn economaidd y wlad.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Mae’r gyfres hon yn rhoi cyfle ardderchog arall i roi llwyfan byd-eang i Gymru. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi LucasFilm i ddod yn ôl i Gymru. Rydyn ni’n disgwyl mlaen yn ofnadwy at y byd yn gweld Cymru ar sgrin – ac mae hyn wedi bod yn sut gyfle ffantastig i’r bobl dan hyfforddiant sydd wedi ennill profiad amhrisiadwy o weithio ar gynhyrchiad mawr.”