English icon English

Cymru'n croesawu cyfranogiad parhaus y DU yn rhaglen Horizon Ewrop gwerth €100bn

Wales welcomes UK’s continued participation in EU’s €100bn Horizon Europe programme

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi croesawu’r newyddion y bydd gan y DU fynediad parhaus at Horizon Europe, rhaglen ymchwil ac arloesi flaenllaw yr Undeb Ewropeaidd, sy’n werth €100 biliwn.

Mae’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU heddiw y bydd y DU yn dod yn aelod “gwlad gysylltiol” y rhaglen, cam yr oedd Llywodraeth Cymru wedi pwyso amdano yn ystod negodiadau Brexit, sy’n golygu y bydd gan wyddonwyr, prifysgolion a busnesau yng Nghymru fynediad parhaus at y rhaglen. 

Mae'r cam hwn yn golygu y bydd sefydliadau'n gallu parhau i wneud cais am gyllid o dan y rhaglen yn yr un ffordd ag aelod-wladwriaethau'r UE.

Mae Horizon 2020, rhagflaenydd Horizon Ewrop, wedi darparu platfform i ymchwilwyr a busnesau yng Nghymru gymryd rhan mewn prosiectau dros €2.5 billion, gyda 81 o wledydd yn cymryd rhan a chyda grantiau gwerth €153 i Gymru hyd yn hyn. 

Drwy gydol negodiadau Brexit rhwng yr UE a'r DU, roedd Llywodraeth Cymru'n gwbl glir y dylai Llywodraeth y DU negodi mynediad llawn at Horizon Ewrop.

Ac yntau'n rhedeg tan 2027 gyda chyllideb o ryw €100 biliwn, Horizon Ewrop yw'r rhaglen drawswladol fwyaf erioed sy'n cefnogi ymchwil ac arloesi, gydag uchelgeisiau Ewrop fel arweinydd byd-eang yn sail iddi.

A hithau'n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Ewropeaidd, mae'r rhaglen yn cefnogi ymchwil hanfodol ac arloesol, ac yn cynnig cyfle o bwys i Gymru barhau'n bartner egnïol a dylanwadol yn rhyngwladol, gan gynyddu atyniad y wlad i dalent ac effeithiolrwydd ei hymchwil.

Mae Llywodraeth Cymru'n annog ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru i ddatblygu cymwysiadau, ac i sefydliadau ledled Ewrop fanteisio ar statws Gwlad Gysylltiol y DU i weithio gyda gwyddonwyr, busnesau, sector cyhoeddus a chymdeithas sifil Cymru.

Tanlinellodd Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol Cymru yr angen i sicrhau newid sylweddol mewn gweithio trawsffiniol a rhyngwladol, wedi'i rymuso gan fuddsoddi rhanbarthol.

Er bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod unrhyw gyllid cyfnewid a bod hyn wedi golygu fod Cymru £1.1 bn yn brin drwy ei Chronfa Ffyniant Gyffredin, mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gefnogi gweithio rhyngwladol a thrawsffiniol drwy ei rhaglen Cymru Ystwyth.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

          "Rydym wedi aros yn hir iawn am y cyhoeddiad heddiw. Roedd parhau i

gymryd rhan yn rhaglenni'r UE yn neges glir ym mlaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran perthynas y DU/UE yn y dyfodol, ac rydym wedi pwyso'n gyson am y canlyniad hwn. Mae'r oedi wrth gadarnhau aelodaeth gyswllt i'r DU wedi achosi braw diangen yn y sector, y gellid ac y dylid fod wedi ei osgoi.

 “Bydd ein cyfranogiad parhaus yn rhaglen Horizon yn rhoi cyfle i brifysgolion a busnesau yng Nghymru ymuno â'u cyfoedion ledled y byd i wthio ffiniau gwyddoniaeth a mynd i'r afael â'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru a'r byd, megis y newid yn yr hinsawdd ac adfer yn dilyn pandemig y Coronafeirws.

Meddai’r Athro Jas Pal Badyal FRS, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru:

“Mae rhaglen flaenllaw'r UE yn cynnig platfform pwysig i ddangos statws Cymru fel cenedl Ewropeaidd sy'n edrych tuag allan, sydd wedi ymrwymo i'r lefel uchaf o ymchwil ac arloesi mewn cydweithrediad â phartneriaid ar draws Ewrop a gweddill y byd.

“Yn dilyn newyddion heddiw, hoffwn annog sefydliadau yng Nghymru i adnewyddu eu perthynas â'u rhwydweithiau rhyngwladol er mwyn ymgeisio i Horizon Ewrop. Gall ein partneriaid Ewropeaidd gael eu sicrhau gan gymhwysedd partneriaid a chydgysylltwyr y DU.

Mae gan Gymru arbenigedd unigryw mewn sawl maes ymchwil ac mae llawer i'w ennill trwy gydweithio ar heriau cyffredin.”