Cymru'n croesawu Cyngor Dur y DU
Wales hosts UK Steel Council
Heddiw, croesawodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Gyngor Dur y DU i Gaerdydd.
Y cyfarfod heddiw oedd chweched cyfarfod y Cyngor, a chanolbwyntiwyd ar y
heriau y mae’r diwydiant dur yn eu hwynebu, ac yn benodol datgarboneiddio.
Croesawodd y Gweinidog Gyd-Gadeiryddion y Cyngor – Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, y Gwir Anrhydeddus Kwasi Kwarteng AS a Chadeirydd UK Steel, Louis Sanz, i Gaerdydd.
Roedd cynrychiolwyr y diwydiant dur a undebau llafur hefyd yn bresennol yn y cyfarfod.
Yn y cyfarfod, pwysleisiodd y Gweinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau diwydiant dur yng Nghymru sy'n gystadleuol, yn uchelgeisiol ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae gan y diwydiant dur hanes hir a balch yma yng Nghymru, felly roeddwn yn falch o groesawu Cyngor Dur y DU i Gaerdydd heddiw.
"Mae datblygu sector dur carbon isel cynaliadwy a chystadleuol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac i aelodau'r Cyngor. Bydd cyflawni'r newid hwn yn allweddol wrth gyflawni ein rhwymedigaethau a'n huchelgeisiau ar y newid yn yr hinsawdd.
"Mae datgarboneiddio'r diwydiant dur yn her sy'n hynod gymhleth. Mae'n un sy'n ei gwneud yn ofynnol i holl aelodau Cyngor Dur y DU weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod adnoddau a pholisïau priodol yn bodoli i ganiatáu i'r diwydiant a'i gyflenwyr fuddsoddi mewn technolegau a fydd yn galluogi pontio cyfiawn, ac yn caniatáu iddynt weithredu ar yr un lefel â'u cystadleuwyr byd-eang.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau'r Cyngor Dur i helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r sector."