Cymru'n croesawu’r Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn yn ôl
Wales welcomes back the Senior Open
Mae’r Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn a gyflwynir gan Rolex yn dychwelyd i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl am y tro cyntaf ers chwe blynedd y penwythnos hwn, wrth i gwrs Pen-y-bont ar Ogwr groesawu Pencampwriaeth 2023, lle mae rhai o enwogion y byd golff ar fin brwydro ar arfordir Cymru.
Ennill y Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn a gyflwynir gan Rolex yw un o'r llwyddiannau mwyaf adnabyddus yn y gêm hŷn ac mae'n dychwelyd i Glwb Brenhinol Porthcawl am y tro cyntaf ers 2017, sy'n golygu mai dyma'r trydydd tro i Gymru gynnal y digwyddiad.
Mae'r lleoliad, sy'n cynnig golygfeydd godidog ar draws Bae Abertawe i Benrhyn Gŵyr ac sydd wir yn profi sgiliau golff, wedi cynnal sawl pencampwriaeth fawreddog fel Yr Amatur a Chwpan Walker. Bydd hefydyn cynnal Pencampwriaeth Agored Menywod AIG yn 2025, un o'r digwyddiadau mwyaf mewn chwaraeon menywod, a dyma fydd y tro cyntaf i'r digwyddiad hwnnw gael ei gynnal yng Nghymru.
Cafodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyfle i ymweld â Chlwb Brenhinol Porthcawl ar ddiwrnod cyntaf y digwyddiad (dydd Iau 27 Gorffennaf). Dywedodd: "Mae Clwb Golff Brenhinol Porthcawl yn un o gyrsiau cyswllt mwyaf blaenllaw'r byd ac yn un o nifer o gyrsiau gwych yma yng Nghymru sy'n aros i groesawu golffwyr o bob safon ac o bob cwr o'r byd. Yn ogystal â'r hwb economaidd y bydd y digwyddiad yn ei ddarparu i'r ardal, rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu llawer o'r chwaraewyr a'r gwylwyr yn ôl i Gymru eto - i weld mwy o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig."
Bydd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, yn mynychu digwyddiad cyflwyno’r tlws ddydd Sul, dywedodd: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda'r R&A a grŵp Cylchdaith Golff Ewrop i ddod â'r digwyddiad mawreddog hwn i Gymru – ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r chwaraewyr a'r gwylwyr yn ôl i Gymru am y tro cyntaf ers 2017.
“Mae'n wych croesawu cymaint o enwogion y byd golff i Gymru eto ac rwy'n siŵr y bydd y cwrs yn darparu prawf gwirioneddol ar gyfer golffwyr hŷn gorau'r byd. Nid yw'n ymwneud â Phorthcawl yn unig gyda digwyddiadau cymhwyso yn y Pîl, Cynffig, Southerndown, Machynys ac Ashburnham.”
Bernhard Langer o'r Almaen sydd wedi ennill y dwywaith diwethaf y cynhaliwyd y digwyddiad hwn yng Nghymru. Yn 2014, y tro cyntaf i'r digwyddiad ymweld â Chymru, creodd Langer, sydd wedi ennill y Bencampwriaeth Meistri golff ddwywaith, hanes drwy ymestyn y bwlch i 13 strôc wrth iddo orffen 18 o dan par. Fodd bynnag, bydd yn wynebu cystadleuaeth gref gan bobl fel Darren Clarke, Padraig Harrington, Miguel Angel Jiminez ac Ian Woosnam, gan gynnwys enillydd 2021, Stephen Dodd.
Dywedodd Edward Kitson, o grŵp Cylchdaith Golff Ewrop a Chyfarwyddwr y Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn a gyflwynir gan Rolex: "Rydym yn falch iawn o ddychwelyd i Gymru a Chlwb Golff Brenhinol Porthcawl ar gyfer y Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn eleni.
“Pan gafodd y gystadleuaeth ei chynnal ddwywaith yn flaenorol yng Nghymru cynhyrchwyd llawer o atgofion cofiadwy ac rydym yn gyffrous i weld beth ddaw eleni. Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i ddod â'r bencampwriaeth wych hon yn ôl i'r rhan hyfryd hon o'r wlad.”
Dywedodd Dr David L Jones, Capten, Clwb Golff Brenhinol Porthcawl: "Rydym ni yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl wrth ein boddau o fod yn cynnal y Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn unwaith eto. Edrychwn ymlaen at roi croeso cynnes Cymreig i'n hymwelwyr o bob cwr o'r byd gan helpu i arddangos De Cymru, fel cyrchfan golff o'r radd flaenaf. Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Gylchdaith a'r R&A, ac edrychwn ymlaen at weld y cwrs yn rhoi her gadarn ond teg i'r chwaraewyr gwych hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Mae wir yn anrhydedd i'r cyngor fod yn un o'r partneriaid swyddogol ar gyfer y digwyddiad ac mae hwn yn gyfle gwych i arddangos yr hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig ar lwyfan y byd.
"Cafwyd cefnogaeth aruthrol gan drigolion lleol, gwirfoddolwyr a busnesau, gyda phawb yn cydnabod pa mor fuddiol yw twristiaeth golff i'r economi leol yn gyffredinol.
"Hoffwn annog pob un o'n hymwelwyr i archwilio'r ardal leol ac i wneud y gorau o'r hyn sydd gan ganol ein trefi i'w gynnig."