English icon English

Cymru'n cryfhau cysylltiadau â Silesia i nodi 20 mlynedd o hanes cyffredin

Wales strengthens ties with Silesia to mark 20 years of shared history

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn bwriadu adnewyddu perthynas hirsefydlog Cymru gyda rhanbarth Silesia yng Ngwlad Pwyl.

Daw hyn dros 20 mlynedd ar ôl llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy lywodraeth yn seiliedig ar hanes cyffredin o dreftadaeth ddiwydiannol.

Bydd y Prif Weinidog yn llofnodi cytundeb o'r newydd a Chynllun Gweithredu ar gyfer Cydweithio, gan ganolbwyntio ar wyddorau bywyd, seibr, gwyddoniaeth ac arloesi, ac addysg.

Mae'r cytundebau rhwng Llywodraeth Cymru a thalaith Silesia hefyd yn canolbwyntio ar dwristiaeth, gan gynnwys rhannu arferion gorau yn ymwneud â Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO sy'n seiliedig ar hen dirweddau diwydiannol, a thrawsnewidiad gwyrdd tirweddau ôl-ddiwydiannol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddiogelwch tomenni glo.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Dyma gyfle unigryw i ddysgu gan wlad arall sydd â hanes tebyg i ni ac uchelgeisiau o ran trawsnewid tirweddau ôl-ddiwydiannol a diogelwch tomenni glo.

"Mae gan y ddwy wlad hanes o fwyngloddio a diwydiant trwm ac, erbyn hyn, ymrwymiad i adfywio, adfer tir a datblygu cynaliadwy.

"Rwyf wedi gweld drosof fi fy hun sut mae canol dinas Katowice wedi cael ei thrawsnewid o byllau glo pan oeddwn yma ddiwethaf yn 2005 i gynnwys parthau ar gyfer busnes a diwylliant, ardaloedd preswyl a meysydd chwaraeon."

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan Rhodri Morgan yn 2002 oedd un o'r rhai cyntaf un yn dilyn datganoli yng Nghymru.

“Mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar hyn ac yn cryfhau ein perthnasoedd byd-eang, gan ddathlu gwahanol ddiwylliannau a chroesawu rhyng-genedlaetholdeb.

"Rydym am roi'r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd, gan ddangos bod Cymru yn wlad hyderus ac eangfrydig.

“Bydd dysgu o'r ffordd y mae eraill wedi mynd i'r afael â materion tebyg, yn enwedig o ran effaith tomenni glo ar ein tirwedd, o fudd nid yn unig i'n heconomi a'n diwylliant, ond i genedlaethau'r dyfodol hefyd."

Ers datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda nifer o ranbarthau gan gynnwys Llydaw, Gwlad y Basg, Fflandrys ac, yn fwyaf diweddar, Baden Württemberg.

Dywedoddswyddog o ranbarth Silesia, Jakub Chestowski: "Rydym yn falch iawn o groesawu'r Prif Weinidog i Silesia i adnewyddu ein perthynas hirsefydlog.

"Mae'n bwysig cryfhau cysylltiadau â Chymru a ffurfioli'r berthynas rhwng llywodraethau pan fo buddiannau a rennir.

"Mae wedi bod yn anrhydedd ei gael yma gyda ni ac mae'n dangos beth y mae modd ei gyflawni pan fyddwn yn dod at ein gilydd i fynd i'r afael â phroblemau tebyg."