Cymru’n cymryd camau nawr i baratoi'r GIG a gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf

Wales acts now to prepare NHS and social care for winter

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cynnar i baratoi'r GIG a gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf, gan ganolbwyntio ar bum maes allweddol.
  • Gofynnir i GIG Cymru gynllunio ar gyfer y gaeaf yn gynharach eleni a symud i ddull cynllunio gydol y flwyddyn gan ystyried yr holl ofynion tymhorol.
  • Bydd y gwaith o ehangu'r brechlyn RSV i'r rhai dros 65 oed sy’n wynebu risg clinigol yn dechrau ym mis Medi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi camau cynnar i helpu'r GIG a gofal cymdeithasol i baratoi ar gyfer y gaeaf.

Y nod yw sicrhau bod gwasanaethau ambiwlans, adrannau argyfwng a darpariaeth acíwt mewn ysbytai yn fwy diogel a gwydn dros gyfnod heriol y gaeaf. Mae hyn yn cynnwys targedu cymorth i helpu pobl hŷn ag anghenion cymhleth, mynd i'r afael â gofal mewn coridorau a helpu pobl i fynd adref o'r ysbyty pan fyddant yn barod.

Rhoddodd y gaeaf diwethaf bwysau gwirioneddol ar y system iechyd a gofal cymdeithasol pan fu gormod o bobl yn aros yn rhy hir am ofal a chymorth. Eleni, gofynnir i GIG Cymru a phartneriaid gofal cymdeithasol gynllunio'n gynharach a chanolbwyntio ar gamau ymarferol a fydd yn helpu pobl i gael y gofal iawn yn gynharach.

Y gaeaf hwn, bydd y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar bum maes allweddol:

  • Helpu i atal salwch ac ymweliadau i'r ysbyty drwy roi hwb i gyfraddau brechu, yn enwedig i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl, staff y GIG a staff gofal, a phlant. Bydd y gwaith o ehangu'r brechlyn RSV i'r rhai dros 65 oed sy’n wynebu risg clinigol hefyd yn dechrau ym mis Medi.
  • Cadw pobl yn iach gartref drwy adnabod y rhai sydd fwyaf mewn perygl yn gynharach a rhoi'r gefnogaeth gywir iddynt i'w cadw allan o'r ysbyty.
  • Rhyddhau gwelyau ysbyty i'r rhai sydd eu hangen fwyaf drwy roi mwy o ffocws ar hylendid a rheoli heintiau, a rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn ddiogel yn gynharach yn y dydd a dros benwythnosau i wella profiad cleifion.
  • Helpu pobl i adael yr ysbyty yn ddiogel pan fyddant yn barod, gyda gwell cefnogaeth yn y gymuned i helpu adferiad gartref.
  • Cadw gwasanaethau cymunedol ac ysbytai i redeg yn esmwyth dan bwysau a gofalu am y staff sy'n gwneud hynny'n bosibl.

Mae dull cyfathrebu newydd hefyd yn cael ei ddatblygu i helpu pobl i wybod ble i fynd pan fydd angen gofal arnynt, fel bod adrannau argyfwng a’r gwasanaeth ambiwlans yno i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor: “Gweithiodd staff gwych ein GIG a gofal cymdeithasol yn arbennig o galed y gaeaf diwethaf, ac ry’n ni’n glir gyda byrddau iechyd a phartneriaid bod angen gwneud mwy.

“Roedd y gaeaf diwethaf yn anodd – roedd gormod o bobl yn aros yn rhy hir am y gofal yr oedd ei angen arnynt, a ’dyw hynny ddim yn ddigon da. Mae cynllunio a gweithredu’n gynnar yn allweddol, a dw i hefyd wedi gofyn i swyddogion ddechrau cynllunio nawr fel ein bod ni'n fwy parod ar gyfer y gaeafau sydd i ddod.

“Dw i hefyd yn glir nad her ar gyfer y gaeaf yn unig yw hon. Mae'r cyfnod diweddar o wres eithafol yn ein hatgoffa'n glir y gall pwysau a risg godi ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Mae ein huchelgais ni’n syml – gwasanaethau diogel drwy gydol y flwyddyn sy'n diogelu capasiti ambiwlansys ac ysbytai i'r rhai sydd wir eu hangen, gan sicrhau bod pobl yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.”