English icon English

Cymru'n cymryd rhan yn yr ymarfer ymateb pandemig mwyaf erioed ledled y DU

Wales to take part in largest ever UK wide pandemic response exercise

Bydd Cymru'n cymryd rhan yn yr ymarfer ymateb pandemig mwyaf erioed ledled y DU yn ystod yr hydref hwn.

Mae'r ymrwymiad yn rhan o ymateb cynhwysfawr Llywodraeth Cymru i fodiwl cyntaf Ymchwiliad Covid-19 y DU a gyhoeddwyd heddiw, a oedd yn edrych ar barodrwydd a gwydnwch y genedl cyn y pandemig.

Mae'r ymateb yn amlinellu'r camau sylweddol a gymerwyd eisoes i gryfhau parodrwydd Cymru i ymateb i argyfwng.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

"Ein blaenoriaeth ni yw cadw pobl Cymru'n ddiogel. Ry’n ni wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o'r pandemig ac adeiladu ar y sylfeini presennol i sicrhau bod Cymru'n barod ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol.

"Dros y chwe mis diwethaf, rydyn ni wedi gweithio gyda’r llywodraethau datganoledig eraill a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried yr argymhellion pwysig hyn o'r ymchwiliad yn ofalus a dechrau ar y gwaith o’u gweithredu.

"Rydym wedi cymryd camau i wella ein gallu i ymateb mewn argyfwng a byddwn yn parhau i adeiladu ar hyn.

"Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod Cymru'n chwarae rhan lawn yn yr ymarfer pwysig a fydd yn cael ei gynnal yn ystod yr hydref hwn i brofi gallu, cynlluniau a gweithdrefnau'r DU i baratoi ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol."

Mae grŵp newydd – Grŵp Cydlynu Cymru – yn cael ei sefydlu i oruchwylio’r gwaith cynllunio a chyfranogiad Cymru yn yr ymarfer. Bydd y grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth o'r holl sefydliadau allweddol sy'n cymryd rhan ar lefel genedlaethol a lleol, i gydnabod cwmpas eang yr ymarfer.