English icon English

Cymunedau gwledig canolbarth Cymru am elwa ar brawf masnachfreinio bysiau newydd

New bus franchising test set to benefit rural communities in mid-Wales

Bydd cymunedau ledled canolbarth Cymru yn cael profi’n gynnar y manteision pellgyrhaeddol a fydd yn deillio o ddiwygio’r diwydiant bysiau.

Dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru a chynghorau canolbarth Cymru, bydd cynllun  treialu yn cael ei gynnal o'r meini prawf a gynlluniwyd ar gyfer diwygio bysiau er mwyn helpu i bennu egwyddorion rhwydwaith bysiau da. Bydd y cynllun treialu hefyd yn creu cyfleoedd ar gyfer gwelliannau cynnar i wasanaethau mewn cymunedau gwledig yng Ngheredigion a Phowys trwy fysiau mwy dibynadwy. Bydd hyn yn helpu i lywio gwelliannau pellach fel rhan o gynlluniau ar gyfer masnachfreinio llawn yn y tymor hwy. Disgwylir i gontractau ar gyfer y gwaith hwn gael eu dyfarnu yn ddiweddarach eleni.

Mae'r cynllun treialu hwn yn creu cyfle i helpu'r diwydiant bysiau i baratoi ar gyfer y newidiadau a ddaw yn sgil diwygio bysiau wrth i'r gwaith barhau i ddatblygu'n dda yn y maes hwn.

Bydd y model masnachfreinio newydd yn disodli’r hen drefn wedi’i dadreoleiddio fel bod gweithredwyr cyhoeddus, preifat neu drydydd sector yn gallu gwneud cais i redeg pecynnau o wasanaethau bysiau lleol. Bydd hefyd yn codi'r cyfyngiadau sydd ar hyn  bryd ar gwmnïau bysiau cyhoeddus, a’u gwneud yn gyfartal â gweithredwyr bysiau eraill.

Bydd hyn yn creu rhwydwaith mwy integredig o wasanaethau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf a lle bydd penderfyniadau am lwybrau, amserlenni a phrisiau'n cael eu gwneud ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a chynghorau lleol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates:

"Mae cyflwyno Bil Bysiau, sy'n newid yn sylfaenol y ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn cael eu darparu yng Nghymru, yn newid enfawr i'r diwydiant bysiau.

Mae gwybodaeth ac arbenigedd lleol yn allweddol i greu rhwydwaith bysiau sy'n addas i gymunedau. Felly, er mwyn ein helpu i wneud pethau'n iawn a pharatoi'r diwydiant ar gyfer y newidiadau a fydd yn deillio o ddiwygio'r diwydiant bysiau, rwy'n falch o fod yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol yng nghanolbarth Cymru i brofi ein cynlluniau.

"Yn ogystal â helpu i lunio dyfodol y diwydiant bysiau yng Nghymru, bydd cymunedau ar draws y canolbarth hefyd yn cael cyfle i elwa ar rai o'r gwelliannau i'r gwasanaethau y gallant eu disgwyl yn y dyfodol.

"Rydyn ni ar drothwy rhywbeth cyffrous iawn ac rwy'n edrych ymlaen at glywed beth mae teithwyr yn ei feddwl o'r gwasanaethau gwell."