English icon English
Dydd Miwsig Cymru 2024-2

Cymunedau'n dod at ei gilydd i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg ar Ddydd Miwsig Cymru

Communities coming together to celebrate Welsh music on Dydd Miwsig Cymru

Mae cerddoriaeth yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd a mwynhau yn Gymraeg, yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. Fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru ar 9 Chwefror, mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi cyfres o gigiau Cymraeg mewn tafarndai cymunedol ledled Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles: "Mae tafarndai cymunedol yn fusnesau cymdeithasol sydd wedi eu gwreiddio yn ein cymunedau ni. Maen nhw’n creu swyddi yn ogystal â chyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i gymdeithasu a defnyddio'r Gymraeg.

"Drwy'r cynllun Grantiau Bach Prosiect Perthyn, mae Llywodraeth Cymru'n rhoi cefnogaeth i grwpiau cymunedol sefydlu tafarndai cydweithredol newydd, ac rwy'n falch iawn o'r cyfle i roi hwb i’r mentrau cydweithredol hyn eleni drwy noddi gigs ar Ddydd Miwsig Cymru.

"Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddathliad gwych o rym a phwysigrwydd iaith a cherddoriaeth. Mae'r Gymraeg yn perthyn i i ni i gyd, ac mae digwyddiadau fel rhain yn ffordd wych i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg, i glywed yr iaith mewn lleoliad anffurfiol ac i hybu ei defnydd yn ein cymunedau.”

Un dafarn gymunedol sy'n cynnal gig, gyda'r cerddor poblogaidd, Morgan Elwy, yw tafarn Glan Llyn yng Nghlawddnewydd ger Rhuthun.

Dywedodd Eryl Williams o Fenter Gymunedol Clawddnewydd, Clocaenog, a Derwen, sy'n trefnu'r gig: "Mae'n bwysig iawn cynnal digwyddiadau Cymraeg ar gyfer pobl yn yr ardal yma, ac yn enwedig i bobl ifanc. Mae'n ffordd dda iddyn nhw gael cyfle i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg, a defnyddio'r iaith y tu allan i'r ysgol. Y gobaith yw y bydd Dydd Miwsig Cymru'n rhoi blas iddyn nhw ar gerddoriaeth Gymraeg fel y bydd eu diddordeb yn parhau yn y dyfodol."

Dyma restr o'r digwyddiadau Dydd Miwsig Cymru sy'n digwydd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru:

8/2/24

Bingo cerddoriaeth byw, Tyn Llan, Llandwrog, Gwynedd

9/2/24 – Dydd Miwsig Cymru

Mari Mathias, Gwesty’r Llew Gwyn, Cerrigydrudion, Sir Conwy

Dafydd Iwan, Saith Seren, Wrecsam

Meryl Elin, Iorwerth Arms, Bryngwran, Ynys Môn

Huw Chiswell a Rhiannon O’Connor, Tŷ Tawe, Abertawe

Phil Gas a’r Band, Pengwern, Llan Ffestiniog, Gwynedd

Elis Derby, Tafarn Yr Heliwr, Nefyn, Gwynedd

Kim Hon, Pys Melyn, Dafydd Owain, Cyn Cwsg, Parisa Fouladi, Dadleoli & Taran, Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Moniars, Tafarn y Fic, Llithfaen, Gwynedd

Endaf, Baby Brave, Eadyth, Ffenest, The Parish, Wrecsam

Danielle Lewis, Tafarn y Vale, Ystrad Aeron, Ceredigion

Paid Gofyn, Clwb y Bont, Pontypridd

Sgwrs efo Barry Archie Jones o’r band Celt, Ty’n Llan, Llandwrog, Gwynedd

10/2/24

Morgan Elwy, Glan Llyn, Clawddnewydd, Sir Ddinbych

Gai Toms, Tafarn y Plu, Llanystumdwy, Gwynedd

Gwilym Bowen Rhys, Pengwerrn, Llan Ffestiniog, Gwynedd

Gethin a Glesni, Ty’n Llan, Llandwrog, Gwynedd

17/2/24

Ciwb ac Alis Glyn, Tafarn Yr Eagles, Llanuwchllyn, Gwynedd