English icon English

Cynhyrchydd papur sidan o Ewrop yn buddsoddi yn y Gogledd i greu mwy na 200 o swyddi

European tissue producer to invest in North Wales creating more than 200 jobs

Caiff rhagor na 200 o swyddi eu creu ar safle Porth y Gogledd yng Nglannau Dyfrdwy wrth i gwmni cynhyrchu papur sidan o Ewrop gyhoeddi ei fod yn adeiladu ffatri newydd sbon gyda chymorth Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £5m ar gyfer y cyfleuster newydd 700,000 tr sg o faint. Mae hynny’n dilyn buddsoddiad o £10m yn safle Porth y Gogledd ym mis Mawrth, i wireddu’r potensial ar gyfer datblygu’r safle

Mae ICT, cwmni o’r Eidal, wedi llofnodi contract cychwynnol ar gyfer safle 50 erw, i ddatblygu ffatri integredig fodern ar gyfer trosi a chynhyrchu papur sidan – y gyntaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig am fwy na 15 mlynedd. Disgwylir gweld y gwaith adeiladu’n cychwyn ddechrau flwyddyn nesaf, ac ar ôl ei hadeiladu, bydd 229 o swyddi newydd yn cael eu creu.

Bydd y ffatri newydd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gynhyrchu hancesi papur a’u tebyg ar gyfer labeli manwerthwyr ac yn enw FOXY, brand ICT ei hun, ar gyfer marchnadoedd y DU ac Iwerddon.

Yn ôl y cwmni, mae’r lleoliad a’r datblygiad yn cynnig y “cyfle perffaith” i fanwerthwyr a’u cwsmeriaid fanteisio ar gynnyrch papur o’r ansawdd uchaf ac ar gyflenwad sicr, diolch i brofiad helaeth ICT o weithio yng nghadwyn gyflenwi’r diwydiant.

Cyn ymweld â’r Gogledd, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Mae’r datblygiad hwn yn newyddion da i safle Porth y Gogledd, Glannau Dyfrdwy a’r Gogledd.  Mae’n golygu bod ffatri newydd fodern yn dod i’r safle gan greu mwy na 200 o swyddi, gyda’r posibilrwydd o fwy o ehangu yn y dyfodol.

“Mae gan safle Porth y Gogledd botensial aruthrol ac rwy’n falch iawn o fod wedi gallu helpu ICT i benderfynu symud eu cyfleuster newydd yma. Bydd yn gyflogwr pwysig yn y dyfodol a bydd ei gyfraniad yn allweddol wrth inni adeiladu Gogledd Cymru gryfach a thecach.”

Dywedodd Gweinidog y Gogledd, Lesley Griffiths: “Dyma newyddion ardderchog i’r Gogledd. Mae ICT yn arweinydd byd yn ei faes a bydd yn creu swyddi crefftus yn y rhanbarth.  Rwy’n disgwyl ymlaen at weld y cynlluniau hyn yn datblygu.”

Dywedodd llefarydd ar ran ICT: “Mae gweithio gyda thîm Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn brofiad adeiladol iawn o gydweithio. Mae ICT wedi cynnal astudiaeth drylwyr iawn o safleoedd posibl ym mhob rhan o’r DU dros y tair blynedd diwethaf ac rydyn ni’n fwy na hapus â’n dewis i ymgartrefu yng Nglannau Dyfrdwy ac i ehangu ôl troed ein busnes i’r Gogledd ac i’r DU.

“Rydyn ni nawr yn disgwyl ymlaen at fynd ati ar fyrder i weithio ar y safle a chreu ein tîm ICTUK.”