Cynigion i ystyried newidiadau i bolisïau gwisg ysgol
Proposals to consider changes to school uniform policies
- Ymgynghoriad newydd ar wisgoedd ysgol wedi’i lansio
- Cost eitemau ysgol i’w hystyried wrth i gostau byw effeithio ar deuluoedd
Mae gofyn i rieni, gwarcheidwaid a dysgwyr ystyried a yw’n angenrheidiol cael logo’r ysgol ar y wisg ysgol, fel rhan o ymgynghoriad newydd sydd wedi’i lansio heddiw gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar amrywiaeth o gynigion yn ymwneud â gwisg ysgol er mwyn diweddaru’r canllawiau statudol a chynnig rhagor o gymorth i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw a gwneud gwisgoedd ysgol yn fwy fforddiadwy.
Ymysg yr opsiynau i’w hystyried mae’r defnydd o frand yr ysgol ac a ddylai ysgolion beidio â chael logo o gwbl, neu ddefnyddio logos y gellid eu smwddio ymlaen a fydd ar gael am ddim. Gallai hyn roi’r opsiwn i deuluoedd brynu gwisg ysgol yn rhatach gan fân-werthwr o’u dewis. Bydd hefyd yn gofyn am farn ynghylch a ddylai ysgolion ymrwymo i gontractau cyflenwr unigol.
Gofynnir am farn ynghylch rôl yr ysgol mewn perthynas â chynlluniau ailgylchu a chyfnewid gwisg ysgol.
Caiff rhieni/gofalwyr, dysgwyr, cyrff llywodraethu, penaethiaid, athrawon a staff ysgol, cyflenwyr gwisg ysgol a rhanddeiliaid allweddol eraill eu hannog i rannu eu safbwyntiau drwy ymateb i’r ymgynghoriad.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi teuluoedd drwy’r argyfwng costau byw.
“Rwy’n gwybod bod llawer o ysgolion yn gweithio’n galed i gadw costau eu gwisg ysgol yn isel. Er hynny, mae gormod o achosion o hyd lle mae disgwyl i deuluoedd wario arian mawr dim ond i anfon eu plant i’r ysgol.”
“Rydyn ni’n lansio’r ymgynghoriad hwn fel y gallwn ni gymryd rhagor o gamau i gefnogi teuluoedd.
“Mae 96,000 o ddisgyblion eisoes yn gymwys ar gyfer ein Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad. Dyma’r cynllun cymorth mwyaf hael yn y DU ac mae’n helpu gyda chostau gwisg ysgol ac eitemau ysgol. Rwy’n annog teuluoedd i wirio a ydynt yn gymwys er mwyn iddynt hwy hefyd allu elwa ar y cymorth hanfodol hwn.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg hyd at 28 Tachwedd 2022
Nodiadau i olygyddion
The consultation can be viewed here https://gov.wales/changes-statutory-guidance-school-uniform-and-appearance-policies and https://llyw.cymru/newidiadau-ir-canllawiau-statudol-ar-bolisiau-gwisg-ysgol-ac-edrychiad-disgyblion
In 2019 we updated our school uniform guidance and made it statutory to better support governing bodies in making their decisions on school uniform policies in respect of access, affordability and flexibility. statutory-guidance-for-school-governing-bodies-on-school-uniform-and-appearance-policies.pdf
Further details of the PDG Access Grant - Pupil Development Grant - Access | GOV.WALES