Cynllun ffyrdd newydd i wella amseroedd teithio a gwella cysylltedd yn Ne-orllewin Cymru
New road scheme set to improve journey times and connectivity in South West Wales
Mae cynllun ffordd yr A40 rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross yn Sir Benfro wedi'i agor diolch i fuddsoddiad ar y cyd o £60 miliwn gan Lywodraeth Cymru a'r UE.
Bydd y cynllun, a agorwyd yn swyddogol heddiw gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn gwella cysylltedd, yn lleihau amseroedd teithio, yn darparu gwytnwch a dibynadwyedd ychwanegol, ac yn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Mae'n darparu uwchraddiad 6km newydd i'r hen ffordd, cerbytffordd newydd, cylchfannau newydd, 2 bont newydd, 22 cwlfert, llwybr teithio llesol newydd a thirlunio amgylcheddol gyda dros 450,000 o blanhigion a choed.
Yn ogystal â darparu gwell hygyrchedd ar hyd coridor trafnidiaeth y dwyrain-orllewin yn ne Cymru i gyrchfannau gwaith, cymunedol a thwristiaeth allweddol, mae'r cynllun hefyd wedi creu cyfleoedd sylweddol i economi’r wlad ac yn lleol, gan gynnwys:
- Cyflogi 97% o weithwyr o bob cwr o Gymru.
- Gweithio gyda mwy na 100 o fusnesau yng Nghymru fel rhan o'r gadwyn gyflenwi
- Cyflogi mwy na 50 o bobl ddi-waith ac 16 o brentisiaid o'r ardal,
Mae cyfres o fanteision amgylcheddol hefyd wedi'u sicrhau gan y cynllun megis,
- Diogelu rhywogaethau gwarchodedig fel moch daear, ystlumod a phathewod drwy trwy ffensys mamaliaid, tanffyrdd, a chysylltedd rhwng cynefinoedd.
- Plannu 150,000 o goed newydd a 300,000 o blanhigion newydd
Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:
"Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth allweddol i ni. Rydym wedi gwario £1 biliwn yn trwsio a gwella ein ffyrdd ers 2021, gan gynnwys mwy na £250 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae cwblhau cynllun gwella'r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross yn newyddion ardderchog i Dde-orllewin Cymru sy'n darparu cyswllt trafnidiaeth hygyrch mwy gwydn i dwristiaeth a phorthladdoedd strategol allweddol yn Sir Benfro.
"Mae'r cynllun hefyd yn helpu i gysylltu cymunedau lleol â chanolfannau trafnidiaeth allweddol, yn ogystal â hyrwyddo ffyrdd iach o fyw gyda chyflwyno llwybr newydd i bobl sy'n dymuno beicio, cerdded neu farchogaeth."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Mae'r prosiect hwn yn ddarn trawiadol o beirianneg ac yn enghraifft wych o sut y gall buddsoddiad wedi'i dargedu mewn seilwaith ffyrdd gyflawni ar sawl lefel, gan ddarparu swyddi i'r gymuned leol, gwella hygyrchedd, cefnogi addysg a sgiliau, ochr yn ochr â darparu buddion amgylcheddol.
"Mae wedi bod yn brosiect cymhleth sydd wedi cynnwys nifer o bartneriaid allweddol a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan yn ein helpu i gyflawni hyn."