Cynllun i fynd i’r afael â heriau gweithlu’r GIG
Plan to address NHS workforce challenges
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynlluniau i fynd i’r afael â heriau staffio’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer y Gweithlu wedi’i gyhoeddi mewn ymateb i’r galw ychwanegol ar weithlu’r GIG ers pandemig Covid-19.
Mae gweithlu GIG Cymru ar ei lefel uchaf erioed, gyda thros 105,000 o aelodau o staff yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol ar hyn o bryd. Serch hynny, mae disgwyl i’r galw byd-eang am weithwyr gofal iechyd gynyddu, gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif diffyg o 10 miliwn o weithwyr iechyd yn fyd-eang erbyn 2030.
Mae’r cynllun yn cynnwys camau i’w gweithredu ar unwaith i ymateb i’r pwysau sydd ar y GIG ar hyn o bryd. Mae’r camau’n cynnwys recriwtio rhagor o nyrsys o dramor yn foesegol, gydag ymgyrch recriwtio yn yr arfaeth ar gyfer nes ymlaen yn 2023. Y llynedd, gwnaeth yr ymgyrch beilot ‘Unwaith i Gymru’ arwain at tua 400 o nyrsys yn ymuno â’r GIG.
Mae yna hefyd gynlluniau i greu “Banc Cydweithredol Cymru Gyfan” i alluogi’r GIG i ddelio â materion staffio tymor byr a rhoi dewis a hyblygrwydd i staff, a hefyd annog symud i ffwrdd o waith asiantaeth.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn datblygu cynigion i ddefnyddio gweithwyr wrth gefn i gefnogi’r gweithlu rheolaidd pan fo pwysau eithafol arno, megis i weithredu rhaglen frechu genedlaethol ar frys, fel y gwelwyd yn ystod y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu annog mwy o wirfoddolwyr i’r system iechyd a gofal, gan ychwanegu at y rhwydwaith presennol o bobl sy’n rhoi o’u hamser i helpu eraill.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau manwl ar gyfer proffesiynau a gwasanaethau penodol megis nyrsio, deintyddiaeth a fferylliaeth dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae ein gweithlu iechyd wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed yng Nghymru, i helpu i ateb y galw cynyddol ar ei wasanaethau. Ond rydym yn gweld galw digynsail ar iechyd a gofal cymdeithasol, yng Nghymru ac o amgylch y byd.
“Mae ein cynlluniau wedi’u seilio ar yr hyn y mae staff y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn ei ddweud wrthym – bod angen gweithredu’n gyflym mewn meysydd allweddol nawr.
“Mae’r neges yn glir: rhaid inni gyflymu’r camau yr ydym yn eu cymryd, gyda chymorth arweinyddiaeth gref, gyfunol a thosturiol er mwyn gwella’r sefyllfa o ran cadw a recriwtio staff. Mae’n hanfodol ein bod yn darparu'r amgylchedd gwaith sydd ei angen ar ein gweithlu i allu parhau i ddarparu gofal o’r radd flaenaf i bobl Cymru.”
Dywedodd Dr Olwen Williams OBE, Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Cymru:
“Rydym yn gwybod bod gweithlu’r GIG o dan lawer o bwysau. Yn ein harolwg aelodaeth diweddaraf ym mis Rhagfyr 2022, canfu Coleg Brenhinol y Meddygon mai prinder staff yw’r her fwyaf sy’n wynebu’r GIG, gyda 64% o ymatebwyr yng Nghymru yn dweud y gofynnir iddyn nhw lenwi bylchau rota ar fyr rybudd a 49% yn dweud mai lleihau nifer y swyddi gwag yn eu tîm fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'w lles.
“Rwy’n falch iawn o weld y cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi o’r diwedd. Rydym eisoes wedi ymuno â cholegau brenhinol a chyrff proffesiynol eraill i alw am weithredu, ac mae hwn yn gam cyntaf pwysig yn y broses. Rydym hefyd yn croesawu trafodaethau diweddar gyda’r colegau brenhinol am y cynllun gweithlu hwn ac yn gobeithio y gallwn barhau â’r sgyrsiau hyn.”