English icon English
Mentoring scheme

Cynllun mentora yn rhoi hwb i nifer y dysgwyr sy'n astudio TGAU mewn ieithoedd rhynglwadol yng Nghymru

Mentorship scheme boosts language GCSE take up in Wales

Mae cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru i annog dysgwyr i astudio TGAU mewn ieithoedd rhyngwladol wedi gweld cynnydd o dros 40% yn nifer y dysgwyr sy'n cael eu mentora ac sy'n dewis astudio iaith fel Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg.

Mae'r rhaglen Mentora Ieithoedd Tramor Modern, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn cefnogi ysgolion i hyrwyddo amlieithrwydd a chynyddu nifer y dysgwyr sy'n dewis astudio ieithoedd rhyngwladol ar lefel TGAU.

Mae myfyrwyr mewn prifysgolion sy'n astudio iaith ryngwladol, neu'r rhai sydd â diddordeb mewn ieithoedd, wedi bod yn mentora dysgwyr ym mlynyddoedd 8 a 9, sef y blynyddoedd y byddant yn gwneud eu dewisiadau ar gyfer eu pynciau TGAU. Mae'r rhaglen ar waith mewn 80% o ysgolion uwchradd yng Nghymru, ac mae pob prifysgol yng Nghymru yn cymryd rhan erbyn hyn.

Ar ymweliad ag Ysgol Gymunedol Tonyrefail, cyn Diwrnod Ieithoedd Ewrop ar 26 Medi, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, gyfle i gwrdd â dysgwyr sydd bellach yn astudio TGAU mewn iaith ryngwladol o ganlyniad i gael eu mentora gan Sasha, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd.

Bu Sasha yn mentora 12 disgybl yn 2023, a dewisodd 5 ohonynt astudio TGAU Ffrangeg neu Sbaeneg.  Roedd Sasha yn ail flwyddyn ei gradd yn astudio BA Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Lynne Neagle:

"Rwy'n falch iawn o weld yr effaith y mae'r rhaglen fentora hon wedi'i chael ar ennyn diddordeb dysgwyr. Mae Cymru'n genedl sy'n edrych tuag allan a gall ieithoedd rhyngwladol helpu i godi dyheadau ac ehangu gorwelion ein holl fyfyrwyr.

"Mae llawer o heriau yn wynebu ieithoedd rhyngwladol ledled y DU, ond mae'n galonogol gweld y gwahaniaeth y mae'r rhaglen yn ei wneud yng Nghymru, yn ogystal â chryfhau'r cysylltiad â'n hysgolion a'n prifysgolion."

Mae Ollie yn ddisgybl a gafodd ei fentora ym mlwyddyn 9, ac wrth gofio'n ôl am ei brofiad, meddai, "Fe wnes i wir fwynhau'r profiad mentora. Roeddwn i'n hoffi sut roedden ni'n cael ein mentora gan fyfyriwr Prifysgol gan ei bod hi tua'r un oed â ni, ac felly roedd yn brofiad mwy pwyllog ac yn llai fel gwers ysgol.

"Rhan gerddorol y cwrs oedd fwyaf diddorol i mi oherwydd y patrymau iaith gwahanol. Ar ôl y profiad, fe wnes i ddechrau gwylio ffilmiau a sioeau teledu gydag is-deitlau Ffrangeg gan sylwi ar y geiriau yr oeddwn i'n eu hadnabod yn ogystal â gwneud nodyn o'r rhai nad oeddwn i'n eu hadnabod. I mi, fe wnaeth y profiad helpu i'm perswadio i astudio Ffrangeg ar lefel TGAU. Ar ben hynny, hoffwn barhau i ddysgu Ffrangeg y tu hwnt i lefel TGAU os yn bosibl gan fod yr iaith yn ddiddorol iawn ac yn ddefnyddiol iawn wrth i mi ddod yn ddwyieithog yn raddol."

Defnyddir arolwg i nodi'r disgyblion hynny sydd heb benderfynu ynghylch a ddylid astudio iaith ryngwladol neu beidio. Ac mae'r arolwg hefyd yn cynhyrchu ystod o wybodaeth werthfawr am agweddau dysgwyr at ddewisiadau pynciau ysgol, teithio rhyngwladol a gyrfaoedd. Yn 2023 roedd 115 o ysgolion uwchradd yng Nghymru yn rhan o'r rhaglen, a chafwyd dros 15,000 o ymatebion.

Mae'r arolwg wedi dangos bod dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ychydig yn fwy tebygol o ddewis iaith ryngwladol ar gyfer TGAU na'r rheini mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Ac mae merched ddwywaith yn fwy tebygol o ddewis TGAU mewn iaith ryngwladol na bechgyn.

Mae ieithoedd rhyngwladol yn wynebu heriau cynyddol mewn ysgolion ledled y DU, ac mae Almaeneg wedi'i heffeithio'n arbennig. Bu gostyngiad o 28% yn nifer y disgyblion yng Nghymru a oedd yn dewis astudio iaith ryngwladol ar lefel TGAU rhwng 2018-2023.

Mae llawer o'r heriau'n gysylltiedig â’i gilydd, ond mae ymchwil Prifysgol Caerdydd wedi dangos bod ieithoedd yn isel ar y rhestr o bynciau sy'n cael eu hystyried gan ddysgwyr. Mae'r rhaglen yn ceisio torri'r cylch hwn wrth i ddysgwyr wneud eu dewisiadau ar gyfer pynciau TGAU, gan ddangos sut y gall ieithoedd gael effaith wirioneddol ar eu dyfodol.

Dywedodd yr Athro Claire Gorrara sy'n arwain y rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Mae ein rhaglen fentora iaith wedi'i chynllunio i roi cyfle i ddysgwyr weithio gyda mentoriaid y Brifysgol sy'n agos atynt mewn oedran, ac sy'n gallu ysbrydoli cariad at ieithoedd.

Drwy bersbectif dysgu iaith, mae mentoriaid yn ymateb i chwilfrydedd cynhenid dysgwyr am y byd o'u cwmpas. Mae ein mentoriaid yn gwneud gwaith anhygoel, gan wireddu manteision personol a phroffesiynol dysgu iaith a'r profiadau bywyd cyfoethog y gall ei gynnig o ran addysg a thu hwnt."

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cyflwyno ieithoedd rhyngwladol o'r ysgol gynradd ymlaen, gan feithrin cariad at ieithoedd o oedran llawer cynharach. Bydd cyfres ddiwygiedig o gymwysterau ar gael am y tro cyntaf yn 2025 i helpu i godi safonau a dyheadau ar gyfer pob dysgwr.