English icon English
poverty proof 2-2

Cynllun newydd i fynd i'r afael â stigma tlodi

New scheme to tackle the stigma of poverty

Mae ysgolion yn gweithio i leihau effaith tlodi a thorri'r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad addysgol a chefndir ariannol.

Diolch i £85,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd chwe chlwstwr o ysgolion ledled Cymru yn cael hyfforddiant a chefnogaeth i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar fywyd ysgol o ddydd i ddydd ac i nodi ffyrdd o leihau ei effaith ar blant a'u teuluoedd.

Yn Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gymuned Ferndale a'r ysgolion cynradd yn y clwstwr yw un o'r grwpiau cyntaf o ysgolion i gymryd rhan yn y cynllun.

Mae athrawon wedi cael hyfforddiant gan Children North East, sefydliad sy'n arbenigo mewn nodi'r rhwystrau sy'n atal plant sy'n byw mewn tlodi rhag manteisio'n llawn ar fywyd ysgol a'i gyfleoedd.

Drwy wrando'n uniongyrchol ar brofiadau pobl ifanc a'u teuluoedd, gall ysgolion nodi rhwystrau sy'n aml yn anweledig yn eu gweithgareddau, a'u helpu i leihau'r risg o stigma i blant o aelwydydd incwm isel, gan wneud addysg yn brofiad cost-niwtral.

Mae ymyriadau sy'n deillio o hyn yn aml yn cael effaith sylweddol a chyflym. Gall newidiadau gynnwys sicrhau nad oes gan ddiwrnodau elusennol fel diwrnod gwisgo siwmperi Nadolig oblygiadau ariannol i deuluoedd ac nad yw trafodaethau yn yr ystafelloedd dosbarth yn arwain at stigma, er enghraifft gofyn i ddisgyblion i ble maen nhw wedi bod ar wyliau ar ôl gwyliau'r haf.

Mae un o'r athrawon o Ysgol Gymuned Ferndale, sydd wedi cael hyfforddiant fel rhan o'r cynllun, yn dechrau gweld yr effaith bwerus y gall ei chael ar gyrhaeddiad dysgwyr. Dywedodd:

"Mae'r ddau ddiwrnod diwethaf wedi fy ysbrydoli i fynd yn ôl i'r ysgol a gwneud fy ngorau i wneud y newidiadau angenrheidiol fydd yn cael eu nodi.

"Mae wir wedi helpu i'n hannog i feddwl yn wahanol a herio barn."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle,

"Ni ddylai cefndir economaidd-gymdeithasol fyth bennu canlyniadau neu gynnydd.

"Fel rhan o gyfres ehangach o ymyriadau fel cyllid mynediad y Grant Datblygu Disgyblion, mae'r cynllun hwn yn helpu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a gosod safonau uchel ar gyfer pob dysgwr.

"Rwy mor falch o weld sut mae'r gwaith hwn yn cefnogi ysgolion yn uniongyrchol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb addysgol, stigma a chynhwysiant cymdeithasol, yn ogystal ag effeithio ar lesiant disgyblion ac iechyd meddwl."

Yr ardaloedd eraill yng Nghymru lle mae'r cynllun peilot yn cael ei gynnal:

  • Caerdydd – Clwstwr Ysgol Plasmawr
  • Sir Gaerfyrddin – Clwstwr Ysgol Dyffryn Aman
  • Ceredigion – Clwstwr Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan
  • Wrecsam - Clwstwr Y Grango
  • Clwstwr Ysgol Uwchradd y Rhyl (ysgolion i'w cadarnhau)

Bydd gan bob ysgol yng Nghymru ddisgyblion o aelwydydd incwm isel, a gall stigma fod yn uwch mewn ysgolion lle daw disgyblion o ystod o aelwydydd ag incwm amrywiol.

Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, bydd atebion i themâu allweddol sy'n cael eu llywio gan werthusiad annibynnol yn cael eu rhannu yn y pen draw gyda phob ysgol yng Nghymru.