Cynllun newydd i gefnogi lles staff mewn busnesau bach
New scheme to help staff at small businesses access well-being support
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun newydd i alluogi busnesau bach a chanolig, neu 'BBaChau', gael at gymorth iechyd a lles.
Mae Gweinidogion yn darparu £8 miliwn i ddarparu'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith newydd ledled Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd y gwasanaeth yn darparu mynediad yn rhad ac am ddim at gymorth therapiwtig i weithwyr BBaChau neu'r hunangyflogedig. Bydd cymorth ar gael i bobl sy'n absennol o’r gwaith, neu sydd mewn perygl o fod yn absennol, oherwydd salwch meddyliol neu gorfforol, gan eu helpu i aros yn y gwaith neu i ddychwelyd. Bydd y cynllun hefyd ar gael i gyflogwyr yn y trydydd sector.
Bydd cymorth therapiwtig yn cael ei ddarparu ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol cyffredin, gan gynnwys ffisiotherapi, osteopathi, ciropodi a phodiatreg. Bydd cymorth iechyd meddwl hefyd yn cael ei gynnig, gan gynnwys cwnsela a chymorth i reoli straen.
Mae'r gwasanaeth yn adeiladu ar wasanaeth blaenorol a ariannwyd gan gyllid Ewropeaidd a oedd yn darparu cymorth mewn rhannau o ogledd Cymru a Bae Abertawe hyd at fis Rhagfyr 2022.
Bydd y cynllun newydd yn gweithredu ledled Cymru gyfan am y tro cyntaf, gan olygu y gallai hyd at 7,000 o bobl gael eu cefnogi.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
“Mae busnesau'n gwerthfawrogi'r cysylltiad rhwng lles a gweithlu hapus a chynhyrchiol yn fwyfwy, gan gynnwys y manteision economaidd y mae buddsoddi mewn gweithgareddau sy'n hybu iechyd da yn eu cynnig i fusnes neu sefydliad.
“Bydd y cynllun newydd hwn yn galluogi busnesau nad oes ganddynt wasanaethau iechyd galwedigaethol eu hunain i gael at gymorth pwysig i'w gweithwyr neu eu hunain. Rwy'n edrych ymlaen at weld busnesau llai, a'u gweithwyr, ledled Cymru yn elwa o gymorth y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith newydd, a fydd nawr ar gael ledled Cymru gyfan am y tro cyntaf.”
Mae'r cynllun newydd yn cefnogi nodau Cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau, a gafodd ei lansio yn 2022. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl â chyflwr iechyd hirdymor i mewn i waith neu i ddychwelyd iddo, drwy atal pobl rhag colli cyflogaeth drwy atal salwch, ymyrraeth gynnar a gweithleoedd iach.
Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Fel rhan o'n gwaith i leihau anweithgarwch economaidd, rydym yn cymryd camau i gefnogi pobl i aros mewn gwaith a'r rhai sydd ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur i ddod o hyd i waith.
“Bydd y cynllun hwn yn hanfodol er mwyn helpu i atal pobl rhag colli eu swydd oherwydd cyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio a bydd yn helpu pobl i aros mewn gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith yn gynt. Bydd hyn o fudd gwirioneddol i'r gweithiwr, y cyflogwr a'r economi ehangach.”
Dywedodd David Evans, Rheolwr Cyffredinol Cwmni Da, busnes a fanteisiodd ar y rhaglen ranbarthol:
"Ychydig cyn y Pandemig dechreuon ni ddod i adnabod RCS, y darparwr lleol, a'r gwasanaethau a'r cymorth roeddent yn eu darparu. Mynychodd nifer o staff gwrs ar-lein, ac mae'r cymorth rydym wedi'i gael ers hynny wedi bod yn wych.
"Nid yn unig y gwnaeth y cwmni hyfforddi pedwar aelod o'n staff i fod yn hwyluswyr lles, roeddent hefyd ar ochr arall y ffôn i gynnig cyngor ymarferol a phroffesiynol. Dros y misoedd diwethaf rydym wedi sylweddoli bod angen inni hyfforddi dau neu dri arall fel hwyluswyr lles.
"Rydym ni yng Nghwmni Da yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â'r rhaglen, a byddem yn ei hargymell i unrhyw gwmni sy'n ceisio cymorth a chyngor yn ymwneud â lles a dychwelyd i'r gwaith."
Nodiadau i olygyddion
Background
Employers can find more information about how to access support by contacting the local provider of the service.
In the Cardiff and Vale, Cwm Taf and Gwent areas please contact Case-UK at
In Work Service Wales | Physiotherapy | Occupational Therapy | Psychological Therapy (case-uk.co.uk)Tel No 02921 676213;
In Powys please contact Mid and North Powys Mind at
In-Work Support Service – Mid & North Powys Mind (mnpmind.org.uk) Tel No 01597 824411; and
In the Dyfed, North Wales and Swansea Bay areas please contact RCS at
Your Wellbeing at Work - RCS Wales (rcs-wales.co.uk) – Tel No 01745 336442