Cynllun newydd i recriwtio mwy o athrawon Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol
New plan to recruit more Black, Asian and Minority Ethnic teachers
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno cymhellion ariannol i helpu i recriwtio mwy o athrawon ethnig lleiafrifol.
Daw hyn fel rhan o gynllun ehangach sy’n cael ei gyhoeddi heddiw a fydd yn canolbwyntio ar gynyddu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr i gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon.
Canfu Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg mai dim ond 1.3% o athrawon ysgol yng Nghymru a nododd eu bod o gefndir ethnig lleiafrifol, o gymharu â 12% o ddysgwyr.
Bydd y Cynllun yn cynnwys targedu hyrwyddo addysgu fel gyrfa i fwy o bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol. Bydd hefyd yn ofynnol i gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon weithio tuag at recriwtio canran o fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Am y tro cyntaf, bydd cymhellion ariannol ychwanegol yn cael eu cyflwyno hefyd i ddenu mwy o athrawon dan hyfforddiant o leiafrifoedd ethnig, o 2022 ymlaen. Ar hyn o bryd mae cymhellion yn bodoli ar gyfer pynciau lle mae galw mawr am athrawon, fel Mathemateg a’r gwyddorau, yn ogystal â’r cynllun Iaith Athrawon Yfory i ddenu mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg.
Mae’r gwaith yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion gan y gweithgor sydd wedi cynghori ar Gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, Cyfraniadau a Chynefin yn y Cwricwlwm newydd i ysgolion.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae'n hanfodol ein bod ni’n cynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu i gefnogi ein dysgwyr yn well. I wneud hyn, mae'n rhaid i ni ddeall y rhwystrau sy'n atal mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol rhag mynd i addysgu, a gweithredu i sicrhau bod y rhwystrau hynny'n cael eu dileu.
“Yn syml, nid yw’n ddigon da bod llai na 2% o athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol. Dyma pam rydyn ni'n lansio'r cynllun yma y mae ei wir angen, fel bod gennym ni weithlu sy'n adlewyrchu poblogaeth Cymru yn well.
“Yn bwysig, dylai cynyddu amrywiaeth mewn ysgolion fod yn berthnasol nid yn unig i ardaloedd lle mae cyfran uwch o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifoedd, ond ledled Cymru gyfan.
“Y gwaith hwn yw’r cam cyntaf yn y gwaith pwysig i gynyddu amrywiaeth yn ein gweithlu addysg.”
Gwobr Betty Campbell MBE
Cyhoeddodd y Gweinidog wobr newydd hefyd yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru eleni. Bydd Gwobr Betty Campbell, am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Duon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, yn cael ei dyfarnu i unigolyn, tîm neu ysgol sydd wedi dangos ymwybyddiaeth ragorol o bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r wobr yn anrhydeddu'r ddiweddar Betty Campbell MBE, cyn bennaeth yn Ysgol Gynradd Mount Stuart a'r pennaeth du cyntaf yng Nghymru.
Dywedodd Elaine Clarke, merch Mrs Campbell:
“Mae’r teulu’n hynod falch a breintiedig o gael y categori newydd yma yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, wedi’i enwi ar ôl ein mam, a fydd yn cael ei chofio mewn ffordd mor hyfryd ac eiconig.
“Roedd ein mam yn angerddol iawn am addysg ac arloesi yn y cwricwlwm, a oedd yn sicrhau bod plant yn cael cyfle i fwynhau a chofleidio profiadau cyfoethog, gan adlewyrchu eu hunaniaeth aml-ethnig a’u hysbrydoli i gyflawni eu breuddwydion. I Betty, roedd yr amhosibl bob amser yn bosibl.
“Mae’r Wobr yn ffordd hyfryd o hyrwyddo cynhwysiant yr holl grwpiau Duon, Asiaidd a lleiafrifol ac rydym yn siŵr y bydd y rhai fydd yn ei derbyn yn parhau i gael eu hysbrydoli, ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, yn ôl troed ein mam.”
Dywedodd yr Athro Charlotte Williams, sy'n cadeirio'r gweithgor ar Gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, Cyfraniadau a Chynefin yn y Cwricwlwm i ysgolion:
“Rwy’n falch iawn o weld lansiad y wobr newydd hon. Rwy'n gobeithio y bydd yn ysgogi ysgolion i feddwl am ffyrdd arloesol a dychmygus o gynrychioli'r themâu hyn yn y cwricwlwm newydd.
“Mae amrywiaeth yn thema ganolog a thrawsbynciol yn y cwricwlwm newydd. Bydd y wobr hon yn annog ysgolion i feddwl yn strategol am sut gallant ymgorffori'r dimensiwn pwysig hwn ym mhopeth maent yn ei wneud.
“Mae lansiad y wobr hon yn arwydd clir bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gyflym i argymhellion yr adroddiad Gweinidogol ar amrywiaeth yn y cwricwlwm newydd.”