English icon English

Cynllun newydd i wella gwasanaethau Meddyg Teulu i gyn-aelodau’r lluoedd arfog

New scheme to improve GP services for veterans

Mae cynllun newydd wedi'i lansio i alluogi meddygon teulu yng Nghymru i gofrestru i fod yn bractisau 'cyfeillgar i gyn-aelodau’r lluoedd arfog’, a darparu gofal arbenigol i aelodau presennol a chyn-aelodau’r lluoedd arfog.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi creu rhaglen newydd i alluogi practisau meddygon teulu i gofrestru i fod yn bractisau achrededig cyfeillgar i gyn-aelodau’r lluoedd arfog.

Mae'r rhaglen yn galluogi practisau meddygon teulu i gofrestru'n wirfoddol i gael hyfforddiant arbenigol ar iechyd a lles cyn-aelodau'r lluoedd arfog. Bydd yr hyfforddiant hefyd yn hyrwyddo’r gwaith o drin pobl sydd wedi gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog, a'u teuluoedd, yn deg gan eu parchu.

Bydd practisau meddygon teulu sy'n ymuno â'r cynllun yn gofyn i gleifion newydd, fel mater o drefn, os ydyn nhw, neu aelodau o'u teulu, yn gwasanaethu gyda lluoedd arfog Prydain, neu wedi eu gwasanaethu yn y gorffennol.

Bydd angen i bractisau sicrhau eu bod wedi cael yr hyfforddiant a'r canllawiau diweddaraf sydd ar gael ar iechyd cyn-aelodau'r lluoedd arfog. Bydd hyn yn eu galluogi i gefnogi iechyd eu cleifion yn y modd mwyaf effeithiol.

Dywedodd Dr Chris Price, sef arweinydd rhaglen AaGIC, sy'n feddyg teulu yng Nghwmbrân:

“Gall cynnig gofal blaenoriaethol gan y GIG i glaf y mae ei gyflwr yn deillio o'i wasanaeth milwrol, neu sy'n gysylltiedig ag ef, wneud gwahaniaeth gwirioneddol iddo ef a’i deulu.

“Er na fydd gan y rhan fwyaf o gyn-aelodau'r lluoedd arfog gyflyrau sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth, rwyf wedi gweld yn bersonol y gwahaniaeth y gall cydnabod effaith gwasanaethu ar iechyd ei wneud i unigolyn. Gall y gydnabyddiaeth hon feithrin ymddiriedaeth rhwng yr unigolyn a’i feddyg teulu, a chryfhau’r ymddiriedaeth honno. Byddwn yn argymell i bractisau archwilio'r rhaglen hon gan wir ystyried cymryd rhan ynddi.”

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

“Mae'r materion iechyd y mae rhai o gyn-aelodau'r lluoedd arfog yn eu profi fel rhan o'u gwasanaeth yn cael eu blaenoriaethu'n briodol o fewn GIG Cymru. Yn anffodus, nid yw llawer o gyflyrau’n dod i'r amlwg tan ar ôl i gyn-aelod o'r lluoedd arfog adael y gwasanaeth milwrol.

“Felly, rwy'n falch iawn o weld y cynllun practisau Cyfeillgar i Gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn cael ei greu yng Nghymru. Bydd yn ei gwneud yn haws i gyn-aelodau'r lluoedd arfog gael sylw i’w hanghenion gofal iechyd pryd a ble bynnag y byddant ei angen.”

Dywedodd Syr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol:

“Mae gan holl gyn-aelodau'r lluoedd arfog hawl i gael mynediad blaenoriaethol at ofal a thriniaeth gan y GIG ar gyfer unrhyw gyflyrau, corfforol a meddyliol, sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth milwrol.

“Mae gan feddygon teulu rôl bwysig wrth wneud atgyfeiriadau cychwynnol ar gyfer cleifion y mae angen asesiad, ymchwiliad neu driniaethau arbenigol arnynt. Mae cofnodi statws cyn-aelod y lluoedd arfog o fewn systemau clinigol meddygon teulu yn gam cyntaf hanfodol wrth sicrhau bod cyn-aelodau'r lluoedd arfog yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.”

Cyn cynhadledd Cymuned y Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, a fydd yn dod â grwpiau cyn-aelodau'r lluoedd arfog, elusennau, y sector cyhoeddus a'r tri gwasanaeth arfog ynghyd, dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol:

“Rydym yn falch iawn o gyn-aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru ac mae cyflwyno practisau meddygon teulu 'cyfeillgar i gyn-aelodau'r lluoedd arfog' yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.

“Mae sefydliadau ledled Cymru wedi bod yn rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog ers amser maith, sy'n cydnabod bod gan y genedl gyfan rwymedigaeth foesol tuag at aelodau'r Lluoedd Arfog, y cyn-aelodau, a'u teuluoedd. Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu parhau i adeiladu ar hynny er mwyn helpu i sicrhau bod eu hanghenion gofal iechyd yn cael eu diwallu yn y modd mwyaf effeithiol.”

Nodiadau i olygyddion

Bydd ymweliad â meddygfa sy’n gyfeillgar i gyn-filwyr  ar foredydd Mercher 24 Mai, yng Nghwmbrân, gyda chyfleoedd i ffilmio a chyfweliadau. Cysylltwch â Matthew Morris os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu neu am geisiau eraill am gyfweliad.

I gofrestru i fodyn Bractis Achrededig sy’n Gyfeillgar i Gyn-filwyr, dylai practisau meddygon teulu e-bostio heiw.cpdadmin@wales.nhs.uk.