English icon English

Cynlluniau ar gyfer Senedd fodern, fwy cynrychiadol

Plans for modern, more representative Senedd published

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau unwaith mewn cenhedlaeth i ddiwygio’r Senedd i’w gwneud yn fwy modern ac effeithiol, fel rhan o’r Cynllun Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Nod y Bil yw creu Senedd fodern, sy’n gallu cynrychioli pobl Cymru’n well. Bydd ganddi fwy o allu i graffu, llunio cyfreithiau, a dwyn y llywodraeth i gyfrif. Mae hefyd yn rhoi argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ar waith. Cefnogwyd yr argymhellion hyn gan y mwyafrif o Aelodau’r Senedd ym mis Mehefin 2022.

Os yw Aelodau’r Senedd yn cefnogi’r newidiadau yn y Bil, byddant ar waith erbyn etholiadau Senedd 2026.

Mae Bil Diwygio’r Senedd yn cynnig y newidiadau canlynol:

  • Bydd gan y Senedd 96 o Aelodau a fydd yn cael eu hethol gan ddefnyddio system cynrychiolaeth gyfrannol â rhestrau caeedig. Bydd y seddau’n cael eu dyrannu i bartïon gan ddefnyddio fformwla D’Hondt.
  • Bydd 16 etholaeth seneddol ar gyfer etholiad 2026. Bydd y rhain yn cael eu creu drwy baru’r 32 o etholaethau newydd Senedd y DU yng Nghymru mewn adolygiad annibynnol. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
  • Bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd o 2026 ymlaen.
  • Bydd uchafswm nifer Gweinidogion Cymru y gellir eu penodi yn cynyddu o 12 i 17 (ynghyd â’r Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol). Bydd gan Weinidogion Cymru’r gallu i gynyddu’r nifer ymhellach i 18 neu 19, ond dim ond gyda chymeradwyaeth y Senedd.
  • Bydd uchafswm nifer y Dirprwy Lywyddion y gellir eu hethol gan Aelodau’r Senedd yn cynyddu o un i ddau.
  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd o hyn allan fyw yng Nghymru.
  • Bydd llwybr ar gael i’r seithfed Senedd ystyried ymhellach oblygiadau ymarferol a deddfwriaethol Aelodau o’r Senedd nesaf yn rhannu swyddi.
  • Bydd mecanwaith adolygu i ystyried gweithrediad ac effaith darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn etholiad 2026 ac unrhyw fater arall yn ymwneud â diwygio’r Senedd y mae o’r farn sy’n berthnasol.

Mae’r Bil hefyd yn cynnig y dylid cynnal adolygiad ffiniau llawn ar ôl etholiad Senedd 2026. Daw hyn i rym o etholiad Senedd 2030 ymlaen, a bydd adolygiadau’n cael eu cynnal bob wyth mlynedd. Bydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cael ei addasu a’i ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gyda’r swyddogaethau angenrheidiol i adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd.

Bydd Bil arall yn cael ei gyflwyno’n nes ymlaen yn y flwyddyn i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd. Y nod yw sicrhau bod y sefydliad yn fwy effeithiol ac yn cynrychioli’r bobl y mae’n ei wasanaethu.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw:

“Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i greu Senedd fodern, sy’n adlewyrchu Cymru, ac i gryfhau ein democratiaeth.

“Ry’n ni’n creu Senedd sy’n fwy effeithiol, ac â mwy o allu i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Bydd y Bil hwn hefyd yn helpu i wneud yn siŵr bod y Senedd yn adlewyrchu’r newidiadau enfawr i setliad datganoli Cymru ers 1999, gan gynnwys pwerau i lunio cyfreithiau a chodi trethi.

“Cymru sydd â’r gynrychiolaeth isaf o bob gwlad yn y Deyrnas Unedig - y Senedd sydd â’r nifer lleiaf o Aelodau o unrhyw un o’r Seneddau datganoledig, a’r lleihad diweddar mewn seddau yn Senedd y DU yw’r newid mwyaf sylweddol mewn canrif.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

“Ddau ddeg chwech o flynyddoedd yn ôl i’r diwrnod, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid datganoli, a heddiw rydyn ni’n cymryd cam hanesyddol arall i gryfhau a grymuso ein democratiaeth.

“Bydd Senedd gryfach, fwy cynrychiadol, sy’n cael ei hethol drwy system gyfrannol, mewn sefyllfa well i barhau i wneud gwahaniaeth i bobl Cymru. Bydd yn sicrhau tegwch, gwell trefniadau craffu, ac yn helpu pob un ohonom i wireddu ein huchelgais i Gymru a’n democratiaeth sy’n aeddfedu.

“Ar ôl ei basio, bydd Bil Diwygio’r Senedd hefyd yn rhoi sylfaen fwy cadarn i ddemocratiaeth Cymru ac yn dod â’r Senedd yn agosach at faint y deddfwrfeydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr i’r modd y mae cynrychiolaeth Cymru ar lefel y Deyrnas Unedig yn San Steffan yn cael ei gwanhau.”