
Cynlluniau i dorri ardrethi busnes ar gyfer siopau manwerthu llai
Plans to cut business rates for smaller retail shops
Mae cynlluniau i newid ardrethi busnes yng Nghymru, gan roi ardreth is i siopau llai, yn cael eu hystyried.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad 12 wythnos, a allai fod o fudd i tua 13,000 o eiddo manwerthu ledled Cymru.
Byddai'n torri ardrethi ar gyfer siopau manwerthu gyda gwerthoedd ardrethol o lai na £51,000, i'w helpu i gystadlu â manwerthwyr ar-lein. Gellid codi ychydig rhagor ar eiddo mwy o faint sydd â gwerthoedd ardrethol o dros £100,000 , ond byddai rhai adeiladau cyhoeddus fel ysbytai ac ysgolion yn cael eu diogelu.
Os cânt eu cymeradwyo, byddai'r newidiadau'n dechrau ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd yr union ardrethi yn cael eu pennu yn ystod gwaith cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Byddai'r cynnig hwn yn helpu i ail-gydbwyso'r system ardrethi o blaid siopau manwerthu, gan gefnogi hyfywedd parhaus y sector sy'n wynebu heriau unigryw gan y gystadleuaeth ar-lein."
"Fel rhan o'n gweledigaeth strategol ar y cyd ar gyfer manwerthu a'r cynllun gweithredu manwerthu, rydym yn cymryd camau ystyrlon i gryfhau ein heconomïau lleol a chreu stryd fawr fwy bywiog mewn trefi ledled Cymru."
Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 20 Mai a 12 Awst 2025.