English icon English

Cynnal Arddangosfa Gyhoeddus ar Adnewyddu Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494

A494 River Dee Bridge Replacement Public Exhibition to take place

Bydd cyfle i'r cyhoedd weld a thrafod yr opsiynau ar gyfer adnewyddu croesfan Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494 mewn digwyddiad a gynhelir ddydd Mawrth, 21 Ionawr yn Eglwys St Andrew's, Garden City,

Mae'r digwyddiad yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus Cam 2 WelTAG sy'n rhedeg tan ddydd Mawrth 4 Mawrth ar restr fer o opsiynau i gymryd lle'r bont sy'n gyswllt hanfodol ar gyfer traffig trawsffiniol rhwng Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

Mae'r arddangosfa gyhoeddus ar agor rhwng 10am a 7pm ddydd Mawrth 21 Ionawr. Bydd rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gallu gweld gwybodaeth am y cynllun, siarad ag aelodau o dîm y prosiect a rhoi adborth.

Mae angen pont newydd gan fod y gofyn am waith atgyweirio ar y bont bresennol yn cynyddu. Mae'r gwaith archwilio a monitro hyd yn hyn wedi dod i'r casgliad bod amlder atgyweiriadau a'r risg o atgyweirio ac ymyrraeth sylweddol a fyddai'n golygu cau'r bont yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Mae'r opsiwn a ffefrir a nodwyd yn 2019 wedi'i adolygu a chynigir opsiynau cynllun newydd sy'n sicrhau gwell aliniad â'r polisïau cyfredol gan wella gwerth am arian a gwytnwch ar hyd y coridor strategol bwysig hwn. Blaenoriaeth arall yw lleihau aflonyddwch yn ystod y gwaith adeiladu,  cyn belled ag y bo modd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon, a byddwn yn annog pobl leol a phobl sy'n defnyddio'r bont yn rheolaidd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

"Mae'r bont yn hanfodol ar gyfer seilwaith ffyrdd Gogledd Cymru.

"Dewch i weld yr opsiynau drosoch eich hun ar 21 Ionawr a chael sgwrs am yr hyn y gallent i gyd ei gyflawni.

"Byddwn yn gwrando'n astud ar farn pobl ac rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi'r ffordd ymlaen ym mis Mai."

 

Nodiadau i olygyddion

Gellir gweld yr opsiynau a chyflwyno adborth hefyd gan ddefnyddio'r holiadur ar-lein drwy ymweld â'r dudalen ymgynghori yn y ddolen hon: https://www.llyw.cymru/cynllun-adnewyddu-pont-afon-dyfrdwyr-a494

Gellir cysylltu â thîm y prosiect hefyd drwy A494RiverDeeBridgeConsultation@llyw.cymru neu drwy amlen wedi'i chyfeirio at 'Freepost A494'.

Cynhelir yr arddangosfa yn Eglwys St Andrew's, Garden City, CH5 2HN