Cynnig i ganiatáu pleidleisio mewn archfarchnadoedd ac ysgolion uwchradd i annog mwy o bobl i fwrw eu pleidlais
Voting in supermarkets and secondary schools proposed to boost voter turnout
Mae’n bosibl y bydd pobl yn gallu ethol eu cynghorwyr lleol wrth orffen gwersi neu wneud eu siopa wythnosol, fel rhan o ymgyrch i wneud pleidleisio’n haws.
Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ymchwilio i weld a fydd yn bosibl treialu trefniadau pleidleisio hyblyg yn yr etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf.
Mae’r posibilrwydd o roi’r cyfle i bleidleisio mewn amrywiaeth o wahanol fannau yn cael ei ystyried, er mwyn ei gwneud yn haws i bobl drwy eu bod yn cael mynd i orsaf bleidleisio mewn lle cyfarwydd. Byddai cynnal gorsafoedd pleidleisio mewn ysgolion uwchradd a cholegau yn ei gwneud yn haws i bobl ifanc gymryd rhan mewn democratiaeth, yn sgil y ddeddfwriaeth sy’n rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yng Nghymru. Mae lleoedd megis canolfannau hamdden neu archfarchnadoedd yn cael eu hystyried hefyd.
Yn ogystal â hyn, byddai’n bosibl gweithredu trefniadau pleidleisio mwy hyblyg drwy ganiatáu i bobl bleidleisio’n gynnar. Gallai hynny olygu bod gorsafoedd pleidleisio ar agor ar y diwrnod neu’r penwythnos cyn yr etholiad, neu efallai dros nifer o ddiwrnodau. Byddai’n ategu’r trefniadau pleidleisio drwy’r post gan roi mwy o ddewis i bobl sydd am fwrw eu pleidlais ymlaen llaw.
Efallai hefyd y bydd pobl yn cael bwrw eu pleidlais mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn ardal yr awdurdod lleol, yn lle gorfod pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio benodol. Ar hyn o bryd, y cyfeiriad lle mae’r unigolyn yn byw sy’n pennu’r orsaf lle mae rhywun yn cael pleidleisio, ond weithiau nad honno yw’r lle mwyaf cyfleus.
Byddai angen systemau digidol ar gyfer gweithredu cofrestrau etholwyr os ydym am roi rhai o’r syniadau ar waith, a byddai eu treialu yn ein helpu i ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o’r ffordd orau o sut y gallent weithio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu’r syniadau hyn mewn llythyr at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda’r bwriad o ymchwilio ymhellach iddynt yn yr etholiadau fis Mai nesaf. Mae’r awdurdodau lleol bellach wrthi’n ystyried a ydynt am fwrw ymlaen ag unrhyw syniadau ar gyfer etholiadau lleol 2022. Os byddant yn gwneud hynny, bydd unrhyw wersi a ddysgir yn helpu i ddatblygu’r trefniadau ar gyfer etholiadau’r dyfodol, gan gynnwys etholiad y Senedd yn 2026 a’r etholiadau llywodraeth leol yn 2027.
Dywedodd Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:
“Rydyn ni’n awyddus i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl bleidleisio, a dyna pam rydyn ni’n edrych ar drefnu iddynt allu pleidleisio mewn amrywiaeth o safleoedd, gan gynnwys siopau ac ysgolion. Dylai democratiaeth fod yn rhan o’n bywydau ni i gyd, ac os bydd mwy ohonom yn cymryd rhan, bydd hynny’n arwain at sefyllfa lle bydd y cynrychiolwyr sy’n cael eu hethol yn gwneud polisïau gwell, a bydd y polisïau eu hunain yn adlewyrchu barn a phrofiad pawb ohonom yn fwy cywir.
“Bydd y cynlluniau pleidleisio peilot hyn yn ein helpu i ddeall yn well sut y gallwn ni sicrhau bod mwy o bobl yn bwrw eu pleidlais. Drwy wneud y trefniadau’n fwy hyblyg, rydyn ni’n credu y bydd yn haws i bobl bleidleisio, gan ddod â democratiaeth yn nes at bawb.”
Dywedodd Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Rydyn ni wedi cael trafodaethau adeiladol gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â’r angen i foderneiddio sut mae etholiadau’n gweithio. Rydyn ni nawr yn annog awdurdodau lleol i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu ffyrdd o gynnal etholiadau yn y dyfodol yng Nghymru. Byddai treialu dulliau newydd yn etholiadau mis Mai 2022 yn gam cyntaf mewn proses tymor hirach a allai arwain at newidiadau sylfaenol i sut mae pobl yn arfer eu hawl democrataidd i bleidleisio ledled Cymru yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd CLlLC:
“Mae democratiaeth iach yn dibynnu ar ymgysylltu effeithiol, ac ar gynnal etholiadau hygyrch sy’n gweddu i anghenion presennol pobl yn ein cymunedau lleol. Mae trafodaethau adeiladol eisoes wedi dechrau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn edrych ar ffyrdd newydd o ddod â democratiaeth yn nes at bawb, a byddwn ni’n edrych ymlaen at ymchwilio i ffyrdd ymarferol o weithredu’r syniadau hyn mewn cymunedau ar draws Cymru.”