Cynnydd o 7.9% yng nghyllid Llywodraeth Leol
7.9% rise in local government funding
Bydd cynnydd yn y cyllid sy'n cael ei ddarparu i gynghorau ledled Cymru y flwyddyn nesaf.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2023 i 2024.
Bydd cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu o 7.9% ar sail tebyg at ei debyg, o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol. Ni fydd unrhyw awdurdod lleol yn cael llai na 6.5% o gynnydd.
Caiff gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau allweddol eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol eu cefnogi gan swm o £5.5 biliwn drwy Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Cymru ac ardrethi annomestig.
Mae'r setliad yn adlewyrchu ymrwymiad y llywodraeth i gefnogi gwasanaethau rheng flaen allweddol a diogelu pobl sy'n agored i niwed, ac mae'n cynnwys cyllid ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal, y cytundeb cyflog i athrawon a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae hefyd yn cynnwys y cymorth i fusnesau a gyhoeddwyd ddydd Llun.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Mae'r setliad hwn yn adeiladu ar ddyraniadau gwell dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn cynnig sail gadarn i gynghorau lleol allu cynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a thu hwnt.
“Pan gyhoeddais ein cyllideb ddoe, rhoddais flaenoriaeth i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, a bydd y cynnydd hwn mewn cyllid i gynghorau - sy'n darparu cymaint o'r gwasanaethau hyn - yn rhan annatod o hynny.”
“Fodd bynnag, rwy'n gwybod bod y pwysau o ran chwyddiant a wynebir gan wasanaethau yn golygu y bydd dal angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd wrth bennu eu cyllidebau.
“Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda llywodraeth leol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau cyffredin rydym yn eu hwynebu a darparu gwasanaethau er lles pobl Cymru.”
Mae ymgynghoriad ar y setliad dros dro wedi agor heddiw, a bydd yn para am 7 wythnos, gan ddod i ben ar 2 Chwefror 2023.