
Cytundeb y gyllideb yn sicrhau £100m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus
Budget agreement secures extra £100m for public services
Bydd gofal cymdeithasol, gofal plant a chynghorau lleol yn elwa ar fwy na £100m o gyllid ychwanegol sydd wedi’i sicrhau drwy gytundeb y gyllideb.
Heddiw (20 Chwefror), wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chyllideb Derfynol ar gyfer 2025-26 yn y Senedd, mae modd datgelu manylion y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Mae elfennau allweddol ar gytundeb y gyllideb yn cynnwys:
- £30m yn ychwanegol ar gyfer gofal plant, a fydd yn sicrhau cyllid ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg i ddarparu gofal plant i blant dwy flwydd oed yng Nghymru. Bydd y gyfradd fesul awr hefyd yn cael ei chynyddu i £6.40 yr awr i gefnogi darparwyr gofal plant ymhellach.
- £30m yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, i’w ddefnyddio i dargedu oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty ac i ddarparu rhagor o ofal a chefnogaeth mewn cymunedau lleol fel na fydd pobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty yn ddiangen.
- Cyllid gwaelodol wedi’i ddiogelu ar 3.8% ar gyfer pob awdurdod lleol, gan gostio £8.24m. Bydd hyn yn cynyddu’r cyllid a fydd ar gael i naw awdurdod lleol – Sir Fynwy, Powys, Gwynedd, Bro Morgannwg, Sir y Fflint, Sir Benfro, Ynys Môn, Ceredigion a Chonwy.
Mae’r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad i symud tuag at wahardd rasio milgwn yng Nghymru.
Mae hefyd yn cynnwys cyllid pellach ar gyfer llywodraeth leol:
- £5m i wella meysydd chwarae a chyfleusterau chwarae i blant.
- £5m yn ychwanegol i gefnogi canolfannau hamdden i arbed ynni.
Ar gyfer trafnidiaeth:
- £15m i ariannu cynllun peilot a fydd yn golygu bod pobl ifanc 21 oed ac iau yn talu £1 yn unig am docyn bws sengl yng Nghymru.
- Cymorth ychwanegol i greu cynllun gwerth £120m i’r awdurdodau lleol ar gyfer trwsio ffyrdd a phalmentydd.
- Cyllid i adfer y pumed gwasanaeth trên ar reilffordd Calon Cymru.
- £500,000 o gyllid cyfalaf i wella toiledau ar brif ffyrdd ar draws Cymru.
Ar gyfer yr amgylchedd a materion gwledig:
- £5m yn ychwanegol i fynd i’r afael â llygredd dŵr yn ein hafonydd a’n moroedd.
- £10m yn ychwanegol ar gyfer cynlluniau buddsoddi gwledig.
Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer cynnal astudiaethau dichonoldeb i gefnogi’r datblygiadau yng Nghanolfan Gelfyddydau Glannau Gwy, yn Llanfair-ym-Muallt a Champws Lles Gogledd Powys, yn Y Drenewydd, y mesurau diogelwch ar gyffordd Pont-y-bat ar yr A470 a’r gwaith adnewyddu yn Lido Brynaman.
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:
“Mae’r cytundeb hwn yn dangos beth allwn ni gyflawni pan fydd Llywodraeth Cymru ac Aelodau o’r Senedd yn gweithio’n adeiladol gyda’i gilydd mewn meysydd lle rydyn ni’n rhannu’r un diddordeb. Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau ym mhob cwr o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
“Mae’r buddsoddiad hwn a’r £1.5bn ychwanegol sydd wedi’i gyhoeddi yn ein Cyllideb Ddrafft yn becyn cadarnhaol o gyllid ychwanegol ar gyfer pob rhan o Gymru. Bydd yn cael effaith sylweddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus.”
Dywedodd Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:
“Mae’r cytundeb hwn yn gam cadarnhaol tuag at wneud Cymru yn wlad decach a mwy llewyrchus – yn union fel rydw i am iddi fod.
“Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi sicrhau’r arian sydd ei angen i gyflawni blaenoriaethau allweddol fy mhlaid o wella gofal cymdeithasol, cynyddu gofal plant o safon, mynd i’r afael â llygredd dŵr, gwella’r ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus a diogelu’r gwasanaethau hanfodol sy’n cael eu rhedeg gan y cynghorau.
“Rydw i mor falch bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y cam hwn i gynnig gofal plant am ddim i deuluoedd â phlant dwy i bedair oed ar draws Cymru. Mae hyn yn bwysig i fynd i’r afael â thlodi plant ac i gynorthwyo rhieni i ddechrau gweithio i helpu gyda’r argyfwng costau byw.”