Dangosyddion cenedlaethol newydd i fonitro cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd
New national indicators to monitor progress in literacy and numeracy
Bydd dangosyddion cenedlaethol newydd ar gyfer llythrennedd a rhifedd yn darparu darlun cliriach o gynnydd ac yn cefnogi’r gwaith o godi safonau addysg.
Bydd y dangosyddion yn cael eu nodi yn y cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi, a bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi data asesiadau personol Blwyddyn 6 i olrhain cynnydd plant ar lefel genedlaethol. Bydd y cynllun yn defnyddio dull 0-16, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad cynnar plant, iaith a lleferydd, a gweithio gyda rhieni a gofalwyr.
Bydd y cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn dwyn ynghyd y camau a gymerwyd dros y tymor hwn yn y Senedd i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i ddatblygu’r sgiliau sylfaenol cryf sydd eu hangen arnynt.
Ochr yn ochr â’r cynllun, bydd canllawiau drafft newydd yn cael eu cyhoeddi i roi eglurder llwyr i ysgolion ynghylch yr hyn y dylid ei ddysgu a phryd, yn ogystal â disgwyliadau cliriach ar bwysigrwydd Ffoneg Synthetig Systematig. Bydd y cynllun hefyd yn nodi cymorth i ysgolion gyflawni hyn, gan ganolbwyntio’n arbennig ar blant sy’n cael trafferth a chefnogaeth i blant wrth iddynt symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Bydd y Gweinidog Addysg, Anna Brychan, hefyd yn llyfrgell Aberystwyth i ddathlu ‘Ymgolli’, rhan o’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol, sy’n hyrwyddo hwyl darllen trwy wneud darllen yn rhan o fywyd o bob dydd. Bydd y Gweinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, yn cwrdd â phlant i siarad am eu hoff lyfrau, rhannu argymhellion llyfrau ac ymuno â gweithdai dan arweiniad awduron.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:
“Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd cryf yn sylfeini hanfodol ar gyfer llwyddo wrth ddysgu a gweithio ac mewn bywyd yn gyffredinol. Fel llywodraeth rydym wedi dweud yn glir y byddwn yn codi safonau addysg. Ac erbyn diwedd tymor y Senedd hon, dylai Cymru weld gwelliant cyson mewn llythrennedd a rhifedd i bob dysgwr. Bydd y dangosyddion cenedlaethol hyn yn ein helpu i olrhain cynnydd ac yn darparu eglurder i ysgolion ynghylch sut rydym am weld gwelliannau a’r ffordd orau i gefnogi dysgwyr.
“Rwyf am sicrhau ein bod yn defnyddio’r data sydd gennym ni eisoes trwy asesiadau personol i ddangos lle rydym ni nawr ac i benderfynu ar y camau er mwyn cyrraedd lle rydym ni eisiau bod. Mae angen i bob dysgwr elwa a manteisio ar yr hyn sydd gan ein cwricwlwm i’w gynnig.
“Gall llyfrau gael effaith barhaol trwy ysbrydoli, meithrin creadigrwydd a’n dysgu ni am y byd. Os gallwn annog pobl ifanc i ddarganfod awch am ddarllen, gallant elwa ar yr angerdd a’r sgiliau hyn trwy gydol eu bywydau. Bydd Ymgolli yn ein helpu i hyrwyddo hwyl darllen ac i ysbrydoli ein pobl ifanc i weld gwerth darllen yn ei holl ffurfiau.”
Dywedodd y Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
“Mae darllen yn helpu i danio dychymyg plant a darganfod awduron a llyfrau newydd, yn ogystal â datblygu eu sgiliau llythrennedd.”
“Llyfrgelloedd yw calon eu cymunedau ac maent yn hanfodol ar gyfer dysgu gydol oes. Trwy annog pawb i fwynhau darllen, beth bynnag eu hoedran, gall mwy o bobl elwa ar y llyfrau a ddarperir gan lyfrgelloedd am ddim, yn ogystal â’r gwasanaethau eraill o ansawdd uchel y maent yn eu darparu.”