Datganiad ar y cyd am y Cynllun Argyfwng Bysiau
A joint statement on the Bus Emergency Scheme
Datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Conffederasiwn Cludiant Teithwyr a Chymdeithas Bysiau Cymru
Mae'r Cynllun Argyfwng Bysiau (BES) wedi cadw gwasanaethau bws hanfodol i redeg drwy gydol y pandemig.
Heb y cynllun byddem wedi gweld canslo gwasanaethau a chymunedau yn cael eu hynysu.
Mae angen i ni nawr ddechrau symud i ffwrdd o gyllido brys.
Roedd y cynllun i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2023 ond, ar ôl sgyrsiau helaeth, gallwn gadarnhau ein bod yn gallu ei ymestyn am gyfnod pontio.
Mae estyniad cychwynnol o dri mis yn rhoi'r sefydlogrwydd tymor byr sydd ei angen ar y diwydiant tra ein bod yn parhau i gydweithio ar gynllunio rhwydweithiau sy'n gweddu'n well i'r patrymau teithio newydd yr ydym wedi'u gweld ers diwedd y pandemig.
Yn dilyn sgyrsiau gyda'r Comisiynydd Traffig, mae'r ffenestr dadgofrestru hefyd wedi cael ei gostwng dros dro i 28 diwrnod.
Mae ymestyn y cyllid ynghyd â'r ffenestr 28 diwrnod yn golygu nad oes angen i weithredwyr wneud penderfyniadau ar ddyfodol eu rhwydwaith yn y dyfodol agos iawn.
Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos gyda phartneriaid eraill - gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru - i adeiladu rhwydwaith bysiau cryf a chynaliadwy ar gyfer Cymru.