English icon English

Datganiad ar y cyd gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog ar Storm Darragh

Joint statement from the First Minister and Deputy First Minister on Storm Darragh

Fel yr oeddem yn disgwyl, mae Storm Darragh wedi tarfu’n sylweddol iawn ar sawl rhan o Gymru, gan effeithio ar drafnidiaeth, seilwaith ynni ac eiddo.

Ar ran pawb, hoffem ddiolch i'r gwasanaethau brys a'r ymatebwyr cyntaf sydd wedi bod allan drwy'r nos mewn amodau ofnadwy er mwyn cadw pobl yn ddiogel.

Diolch hefyd i bobl ledled Cymru wnaeth ymateb i’r Rhybudd Coch difrifol iawn a'r Rhybudd Argyfwng a gyhoeddwyd. Gwnaeth hyn wir helpu'r ymateb brys, ac rydyn ni'n ddiolchgar.

Mae’r gwaith o adfer pŵer i gartrefi ac ailagor rhannau o'r rhwydwaith trafnidiaeth yn parhau, ac rydym yn meddwl am bobl sydd wedi dioddef difrod i'w heiddo yn y storm.

Mae llawer o rybuddion yn parhau i fod mewn grym, yn enwedig yn agos i afonydd, a dylai pobl fod yn wyliadwrus gan y gallai effeithiau Storm Darragh gael eu profi am rai dyddiau eto.