English icon English

Datganiad gan Brif Weinidog Cymru ar Storm Eunice

Statement from the First Minister of Wales on Storm Eunice

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford,

"Rydym yn gweithio gydag asiantaethau cenedlaethol, awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys i baratoi ar gyfer y storm Eunice.

"Mae rhybudd coch wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhan helaeth o dde Cymru o 07.00 yfory, sy'n golygu bod perygl i fywyd.

"Rydym yn disgwyl i’r tywydd darfu ar drefniadau teithio - bydd pob trên yng Nghymru yn cael ei ganslo ddydd Gwener - felly meddyliwch yn ofalus cyn teithio. Teithiwch dim ond os oes raid i chi.

“Fe fynychais gyfarfod COBR yn gynharach heddiw ac mae Cabinet Llywodraeth Cymru yn cyfarfod y prynhawn yma i drafod y paratoadau ar gyfer y storm.

“Byddwn yn monitro'r sefyllfa'n gyson ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl Cymru.

"Gwnewch baratoadau heddiw er mwyn i chi allu cadw eich hun ac anwyliaid yn ddiogel."