English icon English

Datganiad gan Lywodraeth Cymru - gweithredu diwydiannol

Welsh Government News: Statement on planned industrial action

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â’r streic yr wythnos nesaf yn newyddion da i ddisgyblion, rhieni, gofalwyr a staff. Rydyn ni hefyd yn croesawu’r ffaith bod yr Undeb Addysg Cenedlaethol a’r NAHT wedi cytuno i gyflwyno’r cynnig cyflog newydd i'w haelodau a'u cynrychiolwyr. Mae’r trafodaethau dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn gynhyrchiol, ac rydym wedi symud ymlaen yn dda iawn ar faterion fel lleihau llwyth gwaith staff a chefnogi lles. Rwy’ am ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau adeiladol hyn."