Datganiad y Gwanwyn Llywodraeth y DU: Ymateb y Prif Weinidog
UK Government Spring Statement: Response from the First Minister of Wales
Wrth ymateb i ddatganiad Canghellor y DU, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan:
“Mae Datganiad y Gwanwyn yn cadarnhau’r hwb o £1.6bn i’n cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yn wir, mae’n darparu £16m arall ar ben hynny.
“Bydd Cymru yn elwa ar economi sy’n tyfu ac ar gyfraddau llog sy’n gostwng.
“Mae Datganiad y Gwanwyn heddiw yn arwydd o’r heriau economaidd anodd sy’n wynebu’r DU – gartref a thramor.
“Mae Llywodraeth y DU yn ymateb i’r sefyllfa y mae hi wedi’i hetifeddu mewn cyd-destun o ansicrwydd economaidd byd-eang er mwyn parhau i sefydlogi cyllid cyhoeddus.
“Mae ein hymrwymiadau ni’n parhau’n gadarn. Bydd yr hwb a gadarnhawyd i’n cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2025-2026 yn golygu bydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau ein Gwasanaeth Iechyd, yn torri amseroedd aros, yn cefnogi ein hysgolion ac yn helpu ein cymunedau i ffynnu. Bydd hyn wir yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
“Byddwn ni nawr yn asesu’n fanwl beth fydd goblygiadau Datganiad y Gwanwyn ar gyfer ein cynlluniau gwariant yn y dyfodol.”