Datgelu effaith economaidd ‘Brwydr yn y Castell’
Clash at the Castle Economic Impact Revealed
Mae adroddiad newydd wedi datgelu bod y buddsoddiad yn nigwyddiad "Clash at the Castle" WWE yng Nghaerdydd yn 2022 wedi talu ar ei ganfed drwy roi £21.8m yn ôl i economi Cymru.
Fe wnaeth Cymru gynnal digwyddiad stadiwm mawr cyntaf WWE yn y DU ers 30 mlynedd ym mis Medi 2022. Roedd nifer o uchafbwyntiau i’r digwyddiad, a ddiddannodd yr ymwelwyr â Stadiwm Principality Caerdydd, gan gynnwys set wedi'i ddylunio'n arbennig a oedd yn adlewyrchu castell unigryw'r ddinas.
Llwyddodd y digwyddiad i ddenu cynulleidfa fyd-eang o filiynau - gan gyflwyno Cymru i gartrefi cefnogwyr WWE ym mhob cornel o'r byd.
Roedd yr Astudiaeth Effaith Economaidd a luniwyd yn annibynnol yn gofyn am farn dros 3,000 o ymatebwyr. Yn ôl yr astudiaeth:
- Gwnaeth 62,296 o bobl fynychu’r digwyddiad yn y Stadiwm Principality
- Roedd 75.3% o'r gwylwyr yn dod o'r tu allan i Gymru;
- Nododd 57% o'r bobl nad oeddent yn lleol fod mynychu’r digwyddiad wedi codi awydd arnynt i archwilio rhannau eraill o Gymru. O blith y rhai a ddywedodd eu bod eisiau dychwelyd, dywedon nhw mai eu profiad nhw o'r digwyddiad oedd y prif reswm am hynny;
- Denodd y digwyddiad gynulleidfa amrywiol, gyda bron i chwarter y gwylwyr yn fenywod, a gwnaeth llawer o'r gwylwyr fynychu fel grwpiau teuluol.
Wrth groesawu'r canfyddiadau, dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething:
"Dyma newyddion gwych. Fe wnaethom ffurfio partneriaeth gyda chwmni digwyddiadau ac adloniant byd-enwog i ddod â digwyddiad byd-eang gwirioneddol ysblennydd i Gymru. Roedd yn gyfle perffaith i ni arddangos sut y gall ein dinasoedd a'n lleoliadau helpu i gyflwyno digwyddiadau llwyddiannus a gydnabyddir yn fyd-eang.
"Yn ogystal â'r effaith economaidd uniongyrchol a ddeilliodd o’r digwyddiad yng Nghymru, rhoddodd hwb enfawr i'n proffil yn rhyngwladol. Roedd hyn yn cynnwys cyfleoedd i arddangos iaith a diwylliant llewyrchus Cymru drwy greu cynnwys pwrpasol a rannwyd yn fyd-eang ar sianeli WWE ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd y sylw a roddwyd i'r digwyddiad yn cynnwys 9 munud o luniau premiwm a oedd yn arddangos Cymru gyfan a chyfeiriadau rheolaidd at 'Caerdydd, Cymru' drwy gydol y sylwebaeth."
Dywedodd Mark Williams, Rheolwr Stadiwm Principality:
"Roedden ni'n hynod falch bod Stadiwm Principality wedi ei ddewis gan WWE i gynnal y digwyddiad yma - eu digwyddiad mawr cyntaf mewn stadiwm yn y DU ers 30 mlynedd! Mae cynnal digwyddiadau o'r fath yn hynod bwysig, a chynigiodd ‘Clash at the Castle’ WWE lwyfan unigryw i ni arddangos Stadiwm Principality fel lleoliad o'r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer pob mathau o ddigwyddiadau."
"Mae gan Stadiwm Principality leoliad unigryw yng nghanol y ddinas, ac yn sicr roedd hyn yn cynnig profiad heb ei ail i gefnogwyr WWE y tu mewn a'r tu allan i'r stadiwm ac yn creu budd mawr i ddinas Caerdydd hefyd."
Dywedodd Jennifer Burke, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Dinas a Sir Caerdydd:
"Mae digwyddiadau mawr fel WWE yn denu miloedd o ymwelwyr ac yn creu buddion economaidd go iawn i Gaerdydd, ac ni ddylid diystyru pwysigrwydd hynny. Roedd yna fwrlwm sylweddol yng nghanol y ddinas ar ddiwrnod y digwyddiad a chan fod miliynau o bobl ar draws y byd yn gwylio roedd yn gyfle gwych i arddangos y ddinas i gynulleidfa fyd-eang".