English icon English

Dathlu Arloesi Toyota Glannau Dyfrdwy ar Ddiwrnod Cenedlaethol Gweithgynhyrchu

Toyota Deeside Innovation celebrated on National Manufacturing Day

Heddiw, cafodd ffwrnais alwminiwm newydd, a fydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau allyriadau carbon yn ffatri Toyota yng Nglannau Dyfrdwy, eu troi ymlaen yn swyddogol heddiw gan Weinidog yr Economi Vaughan Gething wrth iddo nodi Diwrnod Cenedlaethol Gweithgynhyrchu.

Gyda rhychwant oes o 20 mlynedd, mae'r ffwrneisiau hyn yn cynhyrchu bron i 100% o gynnyrch metel ynghyd â diwydiant sy'n arwain ar ostwng y defnydd o ynni ar gyfer alwminiwm toddi. 

Mae'r ffwrneisi gwerth £1.6m wedi cael £375,000 gan Gronfa Dyfodol Economaidd Llywodraeth Cymru.  

Bydd y prosiect yn lleihau effaith amgylcheddol y safle ymhellach a bydd yn cefnogi Toyota i gyflawni ei uchelgais o fod yn sero net mewn allyriadau carbon o weithgynhyrchu erbyn 2040.

Dywedodd y Gweinidog: "Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Gweithgynhyrchu, rwy'n falch iawn o helpu Toyota i gymryd eu cam nesaf yn eu cenhadaeth sero-net gyda'r ffwrneisi newydd a lansiwyd heddiw.  Mae gan Lannau Dyfrdwy hanes gweithgynhyrchu hir a balch ac mae'r arloesedd a'r sgiliau a welwn ar draws cymuned drawiadol o fusnesau heddiw yn hysbyseb wych ar gyfer y dyfodol cyffrous sydd o'n blaenau.  

"Rwy'n falch iawn bod ein partneriaeth â Toyota yng Nglannau Dyfrdwy yn cefnogi eu hymdrechion i leihau allyriadau yn y ffatri.  Yn ogystal â lleihau gwastraff a sicrhau arbedion carbon, mae hwn yn gam a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol y diwydiant mewn Cymru sero-net.

"Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i greu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru ac mae llwybr datgarboneiddio Toyota yn enghraifft wych o'r bartneriaeth rydym yn ei chynnig i fusnesau i helpu i ddatgloi manteision dyfodol carbon isel'.

Dywedodd Richard Kenworthy, Rheolwr Gyfarwyddwr "Ers 1993 rydym wedi lleihau ein hôl troed carbon dros 75% ac rydym yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o leihau effaith ein prosesau gweithgynhyrchu. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gefnogaeth ragweithiol gan Lywodraeth Cymru i'n helpu i osod yr offer hwn a chyflawni ein nodau ar y cyd o leihau allyriadau carbon."