English icon English
Business Wales Asbri Golf 005-2

Dathlu llwyddiant allforio yn y byd golff

Teeing off to export success

Yn ystod cyfnod prysur yn y tymor golff, mae Asbri Golf yn dathlu llwyddiant busnes pellach gyda chynhyrchion golff wedi'u gwneud yng Nghymru yn cael eu gwerthu i farchnadoedd newydd yn fyd-eang, diolch i gefnogaeth allforio gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae Asbri Golf o Gaerffili yn cynnig amrywiaeth eang o nwyddau golff pwrpasol, ac mae modd teilwra pob un ohonynt i gynnwys logo clwb golff, cymdeithas neu logo corfforaethol.

Bellach yn ei 19eg flwyddyn, mae'r cwmni wedi dod yn un o'r prif frandiau yn y diwydiant golff byd-eang.

Yn ddiweddar, mae'r busnes wedi sicrhau dros £500,000 o archebion allforio newydd, a fydd yn arwain at greu 4 swydd newydd a diogelu 16 o swyddi presennol.

Gyda golff yn y DU yn dymhorol iawn oherwydd yr hinsawdd, mae allforion wedi chwarae rhan bwysig yn amcanion twf y cwmni.

Er bod ymadawiad y DU â'r UE a phandemig Covid wedi creu heriau enfawr i'r busnes, mae bellach yn allforio i 35 o wledydd ledled y byd ac mae ganddo ddosbarthiad sylweddol ar draws marchnadoedd fel Canada, Ffrainc, yr Almaen a Sbaen - i sôn am ychydig.

Gydag enw da am ddylunio, ansawdd a gwasanaeth, prif frand golff Cymru yw Partneriaid y PGA (Cymdeithas y Golffwyr Proffesiynol), Cyflenwyr Swyddogol y Daith Ewropeaidd a chyflenwyr dros 5,000 o glybiau golff a chyrchfannau gwyliau ledled y byd.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Asbri, Eryl Williams:

"Mae'r pandemig wedi cyflwyno llawer o heriau i'n busnes fel yn achos cynifer o fusnesau eraill, ond rydym yn ffodus mai'r diwydiant golff oedd un o'r chwaraeon cyntaf i ailagor ar ôl y cyfnodau clo mewn llawer o wledydd. Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol ac wedi galluogi ein busnes i ailgysylltu â phartneriaid dosbarthu hen a newydd sydd yn ei dro wedi cynyddu ein hallforion a'n dosbarthiad ar draws y byd."

Yn ôl y data dros dro diweddaraf, allforiodd cwmnïau o Gymru werth £15.2 biliwn o nwyddau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2021, sydd 12.4% yn fwy o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2020.

Mae Asbri wedi elwa ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i arddangos yn Sioe Golff Nwyddau PGA yr Unol Daleithiau yn Florida sydd wedi ei alluogi i arddangos ei hunan a manteisio ar fusnes newydd o amrywiaeth o farchnadoedd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i helpu busnesau Cymru i dyfu, gan eu helpu i greu swyddi newydd a rhoi hwb i economi Cymru. Rwy'n falch iawn o weld bod Asbri yn mynd o nerth i nerth ac yn dymuno pob llwyddiant iddo ar gyfer y dyfodol.

"Mae gennym gymaint o gynhyrchion a gwasanaethau unigryw a blaengar yma yng Nghymru. Rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau i'w harddangos ar lwyfan y byd i ddatblygu cyfleoedd masnachu rhyngwladol a chodi proffil diwydiant Cymru ar draws y byd."

Mae Cynllun Gweithredu Allforio Cymru Llywodraeth Cymru yn nodi ystod o gymorth sydd â'r nod o helpu allforwyr Cymru i adfer ac ailgodi yn sgil effeithiau pandemig Covid ac ymadawiad y DU â’r UE; yn ogystal â sbarduno twf mewn allforion o Gymru yn y tymor hwy.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £4 miliwn mewn rhaglenni a gynlluniwyd i greu allforwyr newydd ac i gefnogi’r rheini sydd eisoes yn allforio i dyfu ac ehangu i farchnadoedd tramor newydd.