“Dechrau cyfnod newydd cyffrous i addysg yng Nghymru” wrth i ysgolion groesawu’r cwricwlwm newydd
“Exciting new era for education in Wales” as schools embrace new Curriculum
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi sôn am “ddechrau cyfnod newydd cyffrous” i addysg yng Nghymru, wrth iddo ymweld ag ysgol heddiw i weld plant yn dysgu gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn disodli’r cwricwlwm cenedlaethol sydd wedi bod yn ei le ers yr 1980au. Mae’r cwricwlwm newydd wedi cael ei gynllunio gan athrawon ac addysgwyr, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr.
Bydd ysgolion yn cael eu grymuso i gynllunio eu cwricwlwm eu hunain, wedi'i deilwra ar gyfer anghenion pob dysgwr unigol, tra'n cefnogi eu lles. Bydd pob disgybl yn elwa ar ddysgu sy'n eu cefnogi i fod yn hyderus a chreadigol, gyda'r sgiliau bywyd a'r wybodaeth sydd eu hangen i'w helpu i gyrraedd eu potensial.
Mae pynciau wedi eu grwpio yn chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Bydd pynciau penodol yn parhau i gael eu haddysgu, ond gall ysgolion benderfynu i’w cyfuno fel bod dysgwyr yn deall y cysylltiadau rhyngddynt. Er enghraifft, gellir edrych ar bwnc fel newid hinsawdd drwy ddaearyddiaeth, hanes a'i effaith ar gymdeithas.
Mae pob ysgol gynradd yng Nghymru bellach wedi dechrau addysgu gan ddefnyddio'r cwricwlwm newydd.
Mae tua hanner yr holl ysgolion uwchradd hefyd wedi dechrau dysgu'r Cwricwlwm newydd i ddisgyblion Blwyddyn 7, gyda phob ysgol uwchradd arall yn dechrau dysgu disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 o'r flwyddyn nesaf. O 2024 ymlaen, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno fesul blwyddyn.
Bu Jeremy Miles yn ymweld ag Ysgol y Wern yng Nghaerdydd, er mwyn darganfod sut mae'r ysgol gynradd wedi dechrau dysgu ei chwricwlwm newydd. Ymwelodd â dosbarth i weld yr addysgu a'r dysgu ar waith a siaradodd â'r disgyblion a'r athrawon am eu profiadau.
Dywedodd Jeremy Miles:
"Mae'r cwricwlwm newydd yn ddechrau cyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru.
"Mae brwdfrydedd ac ymrwymiad ein gweithlu addysg wrth ddod â’r cwricwlwm newydd yn fyw yn ysbrydoledig. Y bwriad yw ail-lunio addysg er mwyn sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn uchelgeisiol o ran dysgu a llwyddo, gan roi'r dechrau gorau iddyn nhw yn yr ysgol, a'n helpu ni i godi safonau.
"Mae ein cwricwlwm newydd wedi'i gynllunio gyda chynnydd a lles dysgwyr yn ganolog iddo. Mae'n rhoi'r hyblygrwydd i athrawon deilwra gwersi i'w myfyrwyr, i’w herio a’u cefnogi, fel eu bod yn gadael yr ysgol neu goleg gyda’r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i gyrraedd eu llawn botensial yn y byd fel ag y mae heddiw.”