English icon English
Tintern-Abbey-conservation-3 (003)-2

Dechrau prosiect cadwraeth pum mlynedd yn Abaty Tyndyrn

Five- year conservation project gets underway at Tintern Abbey

Mae Cadw yn arwain rhaglen uchelgeisiol bum mlynedd o hyd o waith cadwraeth hanfodol yn Abaty eiconig Tyndyrn.

Mae gogoniant mwyaf Tyndyrn, sef yr Eglwys Gothig anhygoel, wedi sefyll ar lannau’r Afon Gwy ers dros 700 mlynedd. Dros y canrifoedd, mae’r tywydd wedi erydu’r gwaith carreg meddal canoloesol, a bellach mae prosiect cadwraeth mawr yn mynd rhagddo er mwyn diogelu’r heneb a sicrhau ei bod yn ddiogel ar gyfer ymwelwyr.

Mae ymchwiliadau archaeolegol wedi dechrau ar y safle er mwyn helpu i lywio’r gwaith cadwraeth, a fydd yn mynd i’r afael ag erydiad naturiol a hindreuliad ar dywodfaen bregus 750 mlwydd oed yr Eglwys Abadol. Mae hyn yn cynnwys cofnodi olion yr adeilad yn fanwl, a gwaith cloddio er mwyn helpu i ddeall natur yr archaeoleg o dan lefel y ddaear.

Bydd angen sgaffald trwm ac uchel iawn i gyrraedd tywodfaen waliau uchaf yr eglwys, sydd yn frau ac wedi eu treulio gan y tywydd. Cyn gosod y sgaffald, mae Archaeoleg Mynydd Du ac ArchaeoDomus wedi eu comisiynu i gynnal gwerthusiadau archaeolegol – er mwyn osgoi unrhyw nodweddion hynafol bregus sydd wedi eu claddu yn y ddaear y gellid eu difrodi, ac er mwyn sicrhau bod sylfaen sefydlog i’r sgaffald.

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw: “Ers mwy na 700 mlynedd mae eglwys yr abaty wedi croesawu addolwyr, noddwyr cyfoethog ac ymwelwyr i’r lleoliad heddychlon hwn – ac unwaith eto mae angen ychydig o sylw arno.

“Mae maint a natur y prosiect yn golygu mai hwn yw’r prosiect cadwraeth mwyaf uchelgeisiol ac arloesol i Cadw ymgymryd ag ef ers degawdau.

“Bydd y prosiect cadwraeth hwn yn cynyddu’n dealltwriaeth o Abaty Tyndyrn, ei hanes, ei adeiladau, a’i archaeoleg yn sylweddol, a bydd yn diogelu’r safle ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. 

“Hon fydd blwyddyn gyntaf archwiliad uchelgeisiol iawn i hanes claddedig Abaty Tyndyrn, a bydd yn ymestyn o ben dwyreiniol yr Eglwys i’r rhan fwyaf o du mewn yr eglwys a’r tir sy’n ei hamgylchynu dros y blynyddoedd nesaf.”

Ynghyd â rhaglen o ddadansoddi adeiladwaith, ymchwil hanesyddol ac arolwg geoffisegol, bydd canlyniadau’r gwaith cloddio yn cael eu cyflwyno i’r cyhoedd ar ddiwedd y prosiect a byddant yn gwella’r hyn rydym yn ei wybod am Abaty Tyndyrn ac o gymorth wrth ei reoli a’i gynnal a’i gadw yn y dyfodol.

Dywedodd Richard Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Archaeloeg Mynydd Du: “Rydym wedi cyffroi o gael cefnogi Cadw gyda’r rhaglen gadwraeth bwysig uchelgeisiol hon ar gyfer Eglwys Abaty Tyndyrn. Dyma fydd y tro cyntaf i gymaint o archwilio manwl gael ei wneud i’r Eglwys Abadol ers pan fu’r Weinyddiaeth Gwaith yn gwneud gwaith tirlunio a chloddio bron i ganrif yn ôl, ac mae’n gyfle cyffrous inni ddysgu mwy am yr adeilad mawreddog.

Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio rhan helaeth o’r eglwys ac yn cofnodi’r heneb gan ddefnyddio’r technegau cofnodi archaeolegol digidol arloesol diweddaraf. Rydym yn defnyddio dulliau ffotogrametreg a laser sydd ar flaen y gad, yn ogystal â meddalwedd ddigidol bwrpasol i gofnodi’r gwaith archwilio mewn 3D. Bydd hyn yn darparu cofnod manwl, cyfannol a pharhaus ar gyfer y dyfodol. 

Hyd yma rydym wedi adfer nifer o arteffactau diddorol o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg at y cyfnod modern. Mae’r rhain yn cynnwys darnau o wydr ffenestri canoloesol prin, teils llawr, crochenwaith, a darnau arian o gyfnodau Harri III (1216-72), Siôr III (1760-1820), a hyd at y Cyfnodau Fictoraidd ac Edwardaidd.”

Dywedodd Ross Cook, Archaeolegydd Adeiladau a Dendrocronolegydd yn ArchaeoDomus, “Ni welwyd archwiliadau o natur a chwmpas yr archwiliadau yn Nhyndyrn o’r blaen, a byddant yn darparu’r cofnod mwyaf cynhwysfawr o Heneb Gofrestredig yng Nghymru. 

Bydd y rhaglen o gofnodi adeiladau yn archwilio pob modfedd o’r heneb ac yn creu cronfa ddata ‘fyw’ o wybodaeth yn ymwneud â’i gyflwr cyn gwneud gwaith cadwraeth arno ac ar ôl hynny, ei ddatblygiad hanesyddol, a’i gyflwr. Bydd modd ychwanegu at hyn yn y dyfodol er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli’r safle hardd a phwysig hwn. Mae’n brosiect cyffrous iawn i fod yn rhan ohono, ac mae’n wych gweithio ochr yn ochr â Cadw a thîm gwych gan gynnwys arbenigwyr cydnabyddedig mewn hanes Sisteraidd a chadwraethwyr gwaith maen.

Mae’r gwaith cloddio eisoes wedi bod o gymorth i wella ein dealltwriaeth o waith adeiladu a datblygiad yr Eglwys Abadol yn y byd canoloesol cyn ac ar ôl y Diwygiad. Rydw i ac Archaeoleg Mynydd Du yn edrych ymlaen at rannu’n canfyddiadau yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”

Bydd ffensys o amgylch yr ardaloedd lle mae’r gwaith cloddio yn cael ei wneud mewn camau dros y prosiect pum mlynedd, er mwyn gwarchod y cyhoedd a’r archaeoleg.  Bydd tîm y Mynydd Du yn rhoi sgyrsiau ddwywaith y dydd (dydd Llun i ddydd Gwener am 11am a 2pm) hyd at ddiwedd Mehefin o fan gwylio diogel yn ystlys ddeheuol yr eglwys.

Bydd cam cyntaf y gwaith cloddio yn dod i ben yn gynnar ym mis Gorffennaf, a gobeithir y bydd gwaith cadwraeth yn rhan ddwyreiniol yr eglwys yn dechrau yn ddiweddarach yn 2023.

Mae Abaty Tyndyrn yn dal i fod ar agor, fodd bynnag mynediad cyfyngedig fydd i rai rhannau o du mewn yr eglwys abadol drwy gydol y prosiect.