Dechrau rhoi pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref heddiw yng Nghymru
Autumn Covid-19 booster roll-out begins today in Wales
Mae’r broses o gyflwyno pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref wedi dechrau heddiw (1 Medi) yng Nghymru gyda phreswylwyr a staff cartrefi gofal ledled Cymru y rhai cyntaf i gael y brechlyn.
Bydd pawb sy’n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu yr hydref yn cael eu gwahodd am frechiad gan eu byrddau iechyd. Bydd gwahoddiadau’n cael eu rhoi yn nhrefn y rhai mwyaf agored i niwed, gyda phawb sy’n gymwys yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu erbyn diwedd mis Rhagfyr.
Bydd y brechlyn yn helpu i gefnogi imiwnedd pawb sydd mewn mwy o berygl rhag COVID-19, gan wella eu hamddiffyniad rhag salwch difrifol. Bydd hyn yn helpu i gefnogi’r GIG hefyd yn ystod gaeaf 2022-23.
Yr hydref hwn, yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd un dos o’r pigiad atgyfnerthu COVID-19 yn cael ei gynnig i’r bobl ganlynol:
- Preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Pob oedolyn 50 oed a hŷn
- Pobl rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg glinigol
- Pobl rhwng 5 a 49 oed sy’n gyswllt cartref i bobl sydd â system imiwnedd wan
- Pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr.
Yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, bydd oedolion cymwys 18 oed a hŷn yn cael cynnig y brechlyn Moderna i ddechrau sy’n eu hamddiffyn rhag y straen gwreiddiol COVID-19 a’r amrywiolyn Omicron. Bydd y rhai sy’n gymwys o dan 18 oed yn cael cynnig y brechlyn Pfizer. Bydd y ddau frechlyn yn cael eu cynnig o leiaf tri mis ar ôl dos blaenorol.
Bydd y brechlynnau’n cael eu darparu mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys meddygfeydd a chanolfannau brechu.
Bydd strategaeth frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn sicrhau bod pawb sy’n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu yr hydref hefyd yn cael eu hamddiffyn rhag ffliw tymhorol - mae pobl yn cael eu hannog i fanteisio ar y brechiad rhag y ffliw pan gaiff ei gynnig. Bydd pawb sy’n gymwys ar gyfer y brechiad rhag y ffliw yn cael ei gynnig cyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:
“Bydd ein rhaglen frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau rhag ffliw a COVID-19 y gaeaf hwn. Bydd yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yn dechrau gyda phobl mewn cartrefi gofal, ochr yn ochr â’r rhai sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a’r sector gofal cymdeithasol.
“Mae brechlynnau wedi cael effaith enfawr ar gwrs y pandemig - maent wedi achub bywydau di-rif ac wedi rhoi’r rhyddid a’r hyder inni ailgychwyn ein bywydau.
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a sefydliadau eraill a fydd unwaith eto yn arwain ymdrechion i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed drwy frechu.
“Byddwn yn cynnig rhaglen ffliw estynedig unwaith eto eleni, gydag 1.5 miliwn o bobl yn gymwys am frechiad am ddim.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i dderbyn eu gwahoddiad i helpu eu hunain.
“Bydd pob oedolyn sy’n gymwys yn cael eu gwahodd am eu pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref drwy lythyr a neges destun oddi wrth eu bwrdd iechyd erbyn mis Rhagfyr a gofynnaf i bobl beidio â chysylltu â’u meddygfa am eu gwahoddiad fel eu bod yn gallu parhau i ganolbwyntio ar ofalu am iechyd pobl.”
DIWEDD