Deddf hanesyddol yn cryfhau democratiaeth yng Nghymru
Historic Act strengthens democracy in Wales
Mae democratiaeth yng Nghymru yn cael ei chryfhau heddiw (24 Mehefin) wrth i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae’r diwygiadau sy’n dod yn gyfraith heddiw yn gyfle sy’n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth.
Bydd y ddeddfwriaeth nodedig hon, a gafodd ei phasio gan uwchfwyafrif o Aelodau o'r Senedd ym mis Mai, yn creu Senedd fodern, fwy effeithiol i wasanaethu a chynrychioli pobl Cymru.
Yn sgil y gyfraith newydd, bydd gan y Senedd fwy o gapasiti i graffu ar bolisïau, deddfau a chynlluniau gwario, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Dyma rai o'r newidiadau allweddol a fydd yn cael eu rhoi ar waith mewn pryd ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2026:
- 96 Aelod o'r Senedd, i’w hethol gan ddefnyddio system rhestrau caeedig a fydd yn gwbl gyfrannol. Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu henwi ar y papurau pleidleisio.
- 16 etholaeth yng Nghymru, a phob un yn ethol chwe Aelod o'r Senedd yr un.
- Bydd rhaid i bob Aelod o'r Senedd a phob ymgeisydd am sedd fod yn byw yng Nghymru.
- Bydd etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd o 2026 ymlaen.
Mae ymrwymiad hefyd, ar ôl etholiad 2026, i adolygu'r newidiadau a gyflwynir gan y Ddeddf ac i ystyried goblygiadau ymarferol a deddfwriaethol rhannu swyddi yn y Senedd.
Dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething:
Mae hon yn foment hanesyddol i ddemocratiaeth yng Nghymru. Yn ystod y 25 mlynedd ers datganoli, mae'r Senedd wedi cael mwy o gyfrifoldebau, gan gynnwys pwerau deddfu ac amrywio trethi, ond does dim twf cyfatebol wedi bod yn ei chapasiti – roedd rhaid i hynny newid.
Bydd y diwygiadau hanesyddol hyn yn cael gwared ar y diffyg cydbwysedd er mwyn creu Senedd fodern sy'n adlewyrchu Cymru'r unfed ganrif ar hugain yn well.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw:
O’i chymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, Cymru sydd yn y sefyllfa waethaf o ran tangynrychiolaeth ar hyn o bryd. Bydd y ddeddfwriaeth nodedig hon yn cryfhau ein democratiaeth er mwyn gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well – yn y Senedd ac mewn cymunedau ym mhob cwr o'r wlad.
Cafodd y ddeddfwriaeth ei siapio yng ngwres proses graffu'r Senedd i sicrhau bod gan ein Senedd y gallu sydd ei angen arni i archwilio cyfreithiau, adolygu cynlluniau gwario a sicrhau ein bod yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) i'r Senedd i graffu arno ar 18 Medi 2023 a chafodd ei gymeradwyo gan uwchfwyafrif (dwy ran o dair) o Aelodau'r Senedd ar 8 Mai 2024. Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r cyfnodau craffu ar gael yma: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).
- Mae'r Ddeddf yn gwireddu argymhellion Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Cafodd adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor eu cymeradwyo gan fwyafrif o Aelodau’r Senedd ym mis Mehefin 2022.
- Bydd 32 etholaeth Senedd y DU yng Nghymru yn cael eu paru i greu 16 o etholaethau i Senedd Cymru ar gyfer etholiad 2026. Bydd pob un o'r etholaethau yn ethol chwe Aelod o'r Senedd. Cynhelir adolygiad ffiniau llawn ar ôl etholiad y Senedd yn 2026.
- Bydd uchafswm nifer Gweinidogion Cymru yn codi o 12 i 17 (ynghyd â'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol), gyda'r opsiwn i gynyddu hyn i 18 neu 19 yn amodol ar bleidlais yn y Senedd sy'n gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair.
- Bydd uchafswm nifer y Dirprwy Lywyddion y gall Aelodau’r Senedd eu hethol yn cynyddu o un i ddau.
- Bydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cael ei ailbwrpasu a’i ailenwi, i'w alw'n Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, gyda'r swyddogaethau angenrheidiol i gynnal adolygiadau o ffiniau etholaethau'r Senedd.