English icon English

Deddfwriaeth Newydd i Drawsnewid Teithio ar Fysiau Lleol

New Legislation to Transform Local Bus travel

Mae cynigion i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu ledled Cymru wedi'u cyhoeddi heddiw (dydd Llun, 31 Mawrth). Byddant o fudd i deithwyr, cymunedau, ac yn annog mwy o deithio ar fysiau.

Mae Bil newydd wedi'i osod yn y Senedd a fydd, os caiff ei basio, yn rhoi'r pwerau i greu rhwydwaith bysiau sy'n diwallu anghenion teithwyr. 

Mae'r cynigion yn cynnwys darparu un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn ledled Cymru, gyda gwasanaethau yn seiliedig ar wybodaeth leol. Mae'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn amlinellu sut, drwy Trafnidiaeth Cymru, mewn cydweithrediad agos ag awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforaethol*, y bydd gwasanaethau bysiau yn cael eu cynllunio a'u cydlynu ar lefel genedlaethol a'u darparu'n bennaf drwy gontractau masnachfraint gan weithredwyr y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.

Wrth groesawu'r Bil, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, fod ganddo'r potensial i drawsnewid gwasanaethau bysiau lleol ar draws Cymru gyfan.

Dywedodd: "Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, wrth i gynigion ar gyfer diwygio bysiau ddechrau eu taith drwy'r Senedd.  Mae hyn yn ymwneud â rhoi pobl yn gyntaf trwy ddarparu un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn ledled Cymru.

"Mae angen newid.  Er bod llawer o wasanaethau bysiau yn gweithio'n dda, ac mae rhai ardaloedd yn cael eu gwasanaethu'n dda, nid yw'n wir ym mhobman ac i bawb.   Rwyf am weld rhwydwaith bysiau sy'n rhoi pobl a chymunedau yn gyntaf, gyda gwasanaethau dibynadwy, fforddiadwy a hawdd eu defnyddio;  gwasanaethau cysylltiedig sy'n cysylltu â mathau eraill o drafnidiaeth fel trenau a theithio llesol.

"Mae manteision gwasanaethau bws gwell yn glir ac yn cynnwys mwy o degwch i'r rhai sydd angen trafnidiaeth gyhoeddus fwyaf a chynnig dewis arall i'r car."

Mae bysiau yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol, sy'n cludo tri chwarter yr holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus. Yng Nghymru, mae tua 190,000 o deithiau yn cael eu gwneud ar fysiau bob dydd. Mae'r rhwystrau i ddefnyddio bysiau y mae'r Bil yn anelu at fynd i'r afael â hwy yn cynnwys gwasanaethau annibynadwy, tocynnau heb eu derbyn ar draws nifer o gwmniau a diffyg integreiddio â dulliau trafnidiaeth eraill.

Bydd y cyhoedd yn elwa o well gwybodaeth am wasanaethau bysiau gydag amserlenni hawdd eu deall sy'n caniatáu pontio haws rhwng gwasanaethau bysiau a threnau i gyrraedd cyrchfannau yn effeithlon. Bydd refeniw tocynnau yn cael ei ail-fuddsoddi ledled Cymru gyfan, gan sicrhau bod gwasanaethau yn gwella ledled y wlad mewn ardaloedd gwledig yn ogystal a threfol.

Ychwanegodd Ken Skates: "Rydym eisoes wedi gweld sut y gall gwasanaeth bws integredig weithio, er enghraifft gwasanaethau Traws, gan gynnwys y gwasanaeth T1 sydd â thocyn sydd wedi'i integreiddio'n llawn â’r rheilffyrdd.  Ar draws Gogledd Cymru mae gennym y tocyn 1bws sy'n ddilys ar bron pob gwasanaeth bws lleol yn yr ardal.  Mae'r rhain yn enghreifftiau o'r hyn y gall gwasanaethau integredig ei ddarparu.

"Nid wyf yn diystyru faint o newid fydd y cynigion yn y Bil hwn yn ei gyflawni, ac am y rheswm hwnnw bydd yn cael ei gyflwyno fesul rhanbarth.  Ond bydd y newid yn drawsnewidiol."

Bwriedir i'r cyflwyniad ddechrau yn Ne-orllewin Cymru yn 2027, cyn Gogledd Cymru yn 2028, De-ddwyrain Cymru yn 2029 a Chanolbarth Cymru yn 2030.  Er mai Canolbarth Cymru yw'r rhanbarth olaf, bydd yn elwa yn gynharach o welliannau trwy'r gwaith Pontio i Fasnachfreinio sydd ar y gweill ar hyn o bryd.