Gall degau o filoedd o gartrefi a busnesau gael myneiad at gyflymder gigabit wrth i brosiect cyflwyno band eang ffeibr llawn gyrraedd y tu hwnt i'w dargedau
Tens of thousands of homes and businesses can access gigabit capable speeds as rollout of full fibre broadband smashes targets
Mae mwy na 44,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru yn elwa o well cysylltedd, diolch i fand eang ffeibr llawn cyflym a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mewn partneriaeth ag Openreach, mae'r prosiect pedair blynedd - sydd bellach wedi'i gwblhau - wedi rhoi mynediad at gysylltedd ffeibr llawn i filoedd yn fwy o eiddo na'r targed gwreiddiol o 39,000.
Gwariwyd llai ar gyflwyno'r band eang na'r gyllideb wreiddiol o £57 miliwn ar gyfer y gwaith, a ddarparwyd diolch i gyllid Llywodraeth Cymru a'r UE, buddsoddiad gan Openreach a chymorth gan Lywodraeth y DU.
Wrth i bobl a busnesau ledled Cymru symud tuag at fywydau a gweithleoedd cynyddol ddigidol, mae'r cysylltedd gwell yn adeiladu ar lwyddiant Cyflymu Cymru sydd wedi mwy na dyblu faint o fand eang cyflym sydd ar gael.
Gall pob eiddo sydd wedi elwa nawr gael mynediad at dechnoleg 'Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad' sydd wedi'i ddiogelu at y dyfodol, sy'n gallu darparu cyflymder a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid er mwyn lawrlwytho'n gyflymach a ffrydio'n llyfnach.
Ymhlith y miloedd o gartrefi a busnesau sydd wedi elwa o'r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn, mae Castell Picton yn Sir Benfro, sy'n adeilad rhestredig Gradd 1.
Yn gynharach eleni cysylltwyd yr atyniad poblogaidd i dwristiaid â band eang ffeibr llawn o'r gyfnewidfa yn Hwlffordd sydd gerllaw. Mae hynny'n golygu y bydd y safle hanesyddol hwn bellach yn gallu elwa o ddatblygiadau digidol modern.
I ddechrau, bydd y cysylltiad band eang cyflymach yn gwneud bywyd yn haws i'r rhai sy'n gweithio yn y castell trwy well cysylltedd a diogelwch, gyda'r nod o wella profiad ymwelwyr yn y dyfodol.
Eglurodd Dr Rhiannon Talbot-English, Cyfarwyddwr Castell Picton: "Mae cyflwyno ffeibr llawn wedi bod yn welliant sylweddol i'n busnes."
"Cyn y cysylltiad hwn, roedd y cyflymder lanlwytho a lawrlwytho araf ar y rhyngrwyd a oedd gennym yn golygu bod yr ystod o opsiynau ar gyfer gwella ein heffeithlonrwydd, ein seiberddiogelwch a’n busnes sylfaenol yn gyfyngedig.
"Yn aml, byddai ein e-bost, ein gwefan a'n dyfeisiau ar y rhyngrwyd yn cael eu llethu oherwydd y cysylltedd gwael. Mae'r cysylltiad newydd hwn wedi bod yn gam mawr ymlaen i ni."
Mae'r rhaglen wedi gweld band eang ffeibr llawn yn cael ei gyflwyno ar raddfa ar draws rhannau mwyaf gwledig y wlad, gyda 33 prentis hefyd yn cael eu recriwtio i gefnogi'r gwaith o'i ddarparu.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae COVID-19 wedi newid y ffordd rydyn ni'n byw, yn gweithio, yn teithio ac yn cymdeithasu, sy'n golygu bod cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy yn bwysicach nag erioed - waeth ble yn y wlad yr ydych chi.
"Er nad yw band eang wedi'i ddatganoli, roeddem am gefnogi cymunedau lle nad oedd gan gwmnïau masnachol unrhyw gynlluniau i osod seilwaith band eang ffeibr llawn, a gwella cysylltedd ar draws pob rhan o Gymru.
"Pan ddechreuon ni'r daith hon yn 2019, llai na 7% o eiddo yng Nghymru oedd yn gallu cael mynediad at fand eang ffeibr llawn. Nawr rwy'n falch iawn y gall mwy na hanner yr holl gartrefi a busnesau fyw, gweithio neu astudio gyda chyflymder a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid, a hynny diolch i gyfuniad o arian cyhoeddus a masnachol."
Dywedodd Kim Mears, Cadeirydd Bwrdd Openreach Cymru: "Does neb yn datblygu band eang ffeibr llawn ledled Cymru yn gyflymach nac yn ehangach nag Openreach."
"O ran ein buddsoddiad masnachol a'r gwaith rydym wedi'i wneud mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
"Mae ein rhwydwaith ffeibr llawn cyflym iawn yn helpu i bontio'r rhaniad digidol, agor marchnadoedd newydd i fusnesau, dod â hwb economaidd sylweddol i economïau lleol a helpu teuluoedd i fyw, gweithio a chwarae.
"Rydym yn hynod falch o'r gwaith y mae ein peirianwyr lleol yn ei wneud ar hyd a lled y wlad mewn rhannau trefol a gwledig o Gymru ac mae ein partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn enghraifft wych o sut y gall busnesau a Llywodraeth gydweithio'n llwyddiannus er budd Cymru."