Dewch i gwrdd â Jinx, y ci bioddiogelwch ar ymgyrch i ddiogelu adar môr sydd mewn perygl yng Nghymru
Meet Jinx, the biosecurity dog on a mission to protect Wales’ endangered seabirds
Cyfarfu'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, â Jinx y ci bioddiogelwch heddiw, sy’n gyfrifol am ymgyrch arbennig i ddiogelu adar môr Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £250,000 fel rhan o brosiect newydd a fydd yn ehangu bioddiogelwch yng Nghymru ac sy’n cynnwys Jinx, cocker spaniel tair oed sy'n gweithio a ci canfod cadwraeth cyntaf y DU. Mae wedi bod yn hyfforddi gyda RSPB am y ddwy flynedd ddiwethaf i ganfod llygod mawr. Os na chaiff rhywogaethau goresgynnol eu rheoli, gall achosi dinistr i rywogaethau adar môr sydd eisoes dan fygythiad.
Dyna pam mae swydd Jinx mor bwysig. Gall un llygoden fawr feichiog gynhyrchu nythfa o dros 300 mewn wyth mis yn unig. Mae llygod mawr yn helwyr arbennig ac yn bwyta wyau, cywion a hyd yn oed adar yn rhwydd.
Mae arfordir Cymru yn bwysig ledled y byd am fagu adar môr. Mae dros hanner adar drycin Manaw y byd yn nythu o dan y ddaear mewn twyni ar ynysoedd o amgylch ein glannau. Fodd bynnag, mae adar y môr mewn trafferthion. Gwnaeth adroddiad diweddar Pryderon Adar Cadwraeth yng Nghymru dynnu sylw at ba mor hanfodol yw amddiffyn Pâl, Gwylanod Coesddu, Gwylanod Penddu, a Môr-wenoliaid Cyffredin, Arctig a Phigddu. Er bod y pâl eiconig wedi sicrhau cynnydd yn eu poblogaeth yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf diolch i ymdrechion cadwraeth, yn fyd-eang, roedd eu niferoedd ansefydlog yn eu rhoi ar Restr Goch yr IUCN.
Newid yn yr hinsawdd, rhywogaethau goresgynnol, pysgodfeydd anghynaladwy, datblygiad morol a phandemigau - megis y Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) diweddar a laddodd dros 5000 o huganod ar Ynys Gwales y llynedd- mae pob un yn bygwth goroesiad yr adar hyn.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
"Roeddwn wrth fy modd yn cwrdd â Jinx heddiw ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn cyflawni'r dasg yr ydym wedi ei rhoi iddo - i amddiffyn adar môr Cymru rhag llygod mawr ac ysglyfaethwyr mamaliaid eraill. Diolch i'r hyfforddiant dwys a gwblhaodd gyda'i hyfforddwr arbenigol, Greg, rydym yn hyderus y bydd y bioddiogelwch ar ein hynysoedd yn gwella'n fawr o dan ei wasanaeth.
"Mae amddiffyn ein hadar môr a sicrhau cydbwysedd ein hecosystemau gwerthfawr yn gyfrifoldeb inni i gyd wrth inni wynebu'r argyfyngau hinsawdd a natur. Gallwn helpu Jinx i wneud ei waith yn iawn trwy fod yn wyliadwrus o anifeiliaid ar ein dillad, rhywogaethau ymledol yn ein bagiau neu helwyr mamaliaid sy’n llwyddo i ddod gyda ni pan fyddwn yn ymweld â'r ynysoedd hyn. Rhowch wybod am unrhyw beth amheus ar unwaith. Diolch i RSPB am eu gwaith hanfodol yn diogelu ein hadar môr a'n holl bartneriaid sydd wedi gweithio gyda'i gilydd i wneud Jinx y ci bioddiogelwch cyntaf y DU."
Dywedodd Emily Williams, Uwch Swyddog Polisi Morol, Prifysgol Cymru: "Rydym yn falch iawn y bydd Jinx yn parhau â'i waith ar fioddiogelwch drwy'r prosiect newydd hwn, sy'n adeiladu ar waith Biosecurity for LIFE. Mae bioddiogelwch yn elfen hanfodol o gadwraeth adar môr, ar adeg pan mae adar y môr angen ein help yn fwy nag erioed. Ynghyd â'r strategaeth sy'n datblygu ar gyfer diogelu adar y môr a chynllunio amgylcheddol morol, gallwn droi'r llanw i adar môr yng Nghymru."