English icon English
Stub it out

Diffodd y difrod i genedlaethau’r dyfodol

Time to ‘stub it out’ for a generation

Heddiw yn Senedd San Steffan, mae deddf newydd wedi’i chyflwyno sy’n anelu at greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf.

Bydd y Bil Tybaco a Fêps yn berthnasol i bob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig. Bydd yn atal pob person ifanc a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 rhag prynu unrhyw gynhyrchion tybaco.

Mae smygu yn un o brif achosion clefydau y gellir eu hatal. Mae’n achosi tua 3,845 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Nod y Bil yw diogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag niwed smygu. Bydd yn ategu ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n ddi-fwg erbyn 2030.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi arwain y ffordd drwy gyfyngu ar smygu mewn rhai mannau cyhoeddus awyr agored. Mae’r rhain yn cynnwys tir ysbytai, tir ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, er mwyn atal pobl, yn enwedig plant sy’n defnyddio’r ardaloedd hyn, rhag anadlu mwg ail-law niweidiol.

Bydd y Bil newydd gan Lywodraeth y DU yn rhoi i asiantaethau gorfodi, gan gynnwys Safonau Masnach Cymru, bwerau ychwanegol i roi Hysbysiadau Cosb Benodedig am werthu tybaco a fêps a chynhyrchion nicotin eraill yn anghyfreithlon.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:

“Rwy’n falch o weld y Bil cryfach yma’n cael ei gyflwyno. Ry’n ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â smygu; torri cylch caethiwed i nicotin a pharatoi’r ffordd tuag at Deyrnas Unedig ddi-fwg a di-nicotin.

“Dyma gam enfawr ymlaen tuag at ddiogelu iechyd cenedlaethau’r dyfodol. Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid i wneud yn siŵr bod y Bil yn cael ei gyflwyno mor esmwyth â phosib.”

Dywedodd Dr Keir Lewis, arweinydd clinigol ar gyfer meddygaeth anadlol yn Ysbyty’r Tywysog Philip, y byddai’r Bil o fudd i iechyd pobl yng Nghymru: “Mae’r Bil yma’n gyfle i bobl yng Nghymru sicrhau iechyd gwell. Fel meddyg ysgyfaint, rwy’n gweld y poen, y dioddefaint a’r marw a achosir gan smygu bob dydd. 

“Mae’r llywodraeth yn helpu i’n diogelu ni yn awr ac ar gyfer cenedlaethau i ddod, drwy’r mesurau cynhwysfawr yma i reoli tybaco a fepio.”

Mae bron i 16% o bobl ifanc ym mlwyddyn 11 yng Nghymru yn defnyddio fêps bob wythnos. Felly, bydd y Bil hefyd yn cyflwyno mesurau i fynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio fêps. Y nod yw gwneud yn siŵr na fydd y genhedlaeth nesaf yn mynd yn gaeth i nicotin. 

Mae’r cynigion yn cynnwys cyfyngiadau ar hysbysebu cynhyrchion fepio a nicotin; gwahardd peiriannau gwerthu fêps a lleihau apêl ac argaeledd fêps drwy reoli blasau a deunyddiau pecynnu fêps a ble y caiff siopau eu harddangos fel na fydd plant yn eu gweld.

Ychwanegodd Sarah Murphy: “Bydd y cynigion yma’n ein helpu i wireddu ein nod o greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf a delio â fepio ymhlith pobl ifanc, rhywbeth sy’n broblem gynyddol.

“Bydd cynyddu’r oedran cyfreithlon ar gyfer prynu cynhyrchion tybaco, yn ogystal ag atal fêps rhag cael eu targedu’n fwriadol at blant, yn chwarae rhan fawr tuag at gyflawni hyn.

“Gyda’n gilydd, gallwn ni ddiffodd difrod smygu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Jacqui Thomas, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru: “Mae Safonau Masnach Cymru yn croesawu’r Bil yma. Bydd y newidiadau sy’n cael eu cynnig yn allweddol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, yn enwedig ar gyfer plant a chenedlaethau’r dyfodol.”