English icon English

Digwyddiadau â chymorth yn cyflawni enillion enfawr ar fuddsoddiad

Supported events achieve huge return on investment

Cynhyrchodd digwyddiadau celf, diwylliant a chwaraeon a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Digwyddiadau Cymru fwy na £40m i'r economi yn 2024.

Roedd hyn yn cynrychioli enillion deg i un ar fuddsoddiad, gyda bron £4m yn cael ei ddarparu i gefnogi cyfanswm o 35 o ddigwyddiadau y llynedd.

Ymhlith y digwyddiadau llwyddiannus roedd ras feicio Tour of Britain i fenywod, Cwpan y Byd Cleddyfa Cadair Olwyn, gŵyl Hijinx Unity a Gŵyl gyntaf Dinas Gerdd Caerdydd.

Cafodd bron i 170,000 o ymwelwyr ychwanegol eu denu i Gymru gan ddigwyddiadau a ariannwyd y llynedd, ac fe wnaethant hefyd gefnogi dros 900 o swyddi yn yr economi dwristiaeth ehangach.

Fe wnaethant greu tua 4,000 o gyfleoedd profiad gwaith a gwirfoddoli, ac arddangos bron i 1,000 o artistiaid perfformio o Gymru, neu sydd wedi eu lleoli yng Nghymru .

Mae darparu cymorth ariannol i ddigwyddiadau sy'n denu ymwelwyr i Gymru yn un o brif amcanion Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022-2030.

Mae Gŵyl Rhwng y Coed, sy'n cael ei chynnal yng nghoedwig Candleston ym Merthyr Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr, yn denu bron i hanner ei chynulleidfa o'r tu allan i'r wlad bob penwythnos gŵyl banc ym mis Awst.

Yn 2024, gyda chymorth Digwyddiadau Cymru, denodd yr ŵyl tua 20 y cant yn fwy o ymwelwyr. Darparodd hefyd hyd at 50 o gyfleoedd gwirfoddoli i grwpiau cymunedol ledled rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr, a chafodd sylw mewn papur newydd cenedlaethol.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Andrew Thomas:

"Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bu modd i ni weithredu strategaeth farchnata broffesiynol, a oedd yn caniatáu rhyddhau tocynnau yn gynnar yn fwy effeithiol ar gyfer 2024. Mae'r hwb hwn mewn ymwybyddiaeth brand wedi cael effaith barhaol, gadarnhaol ar yr ŵyl.

"Fe wnaeth y cyllid hefyd gryfhau rheolaeth a threfniadaeth y digwyddiad, gan ein galluogi i logi gweithwyr llawrydd profiadol - gan wella profiad yr ymwelwyr a'r boddhad cyffredinol yn sylweddol. Diolch i'r cymorth hwn, mae ein gweledigaeth o ŵyl sy'n cysylltu pobl â natur, wedi dod yn fyw."

Mae digwyddiadau mawr ar gyfer y dyfodol eisoes wedi'u sicrhau hyd at 2030, gan gynnwys cymal o Tour de France yn 2027 a chwe gêm o EURO 2028 a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Ym mis Gorffennaf, bydd Pencampwriaeth Agored yr AIG i Fenywod hefyd yn cael ei gynnal yng Nghlwb Golff Royal Porthcawl – y digwyddiad chwaraeon i fenywod yn unig mwyaf erioed i gael ei gynnal yng Nghymru.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

"Mae digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru. Maent hefyd yn arddangos ein lleoliadau arbennig sydd o'r radd flaenaf, yn ein helpu i ddathlu ein diwylliant Cymreig unigryw, ac yn darparu manteision llawer ehangach, fel cefnogi iechyd meddwl a lles, a helpu i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a'r celfyddydau.

"Fe wnaeth Digwyddiadau Cymru helpu'r sector i fwynhau 2024 hynod lwyddiannus, gydag enillion enfawr ar fuddsoddiad a bron i fil o swyddi yn cael eu cefnogi yn yr economi dwristiaeth ehangach. Boed hynny'n gyflenwyr cwrw, faniau bwyd stryd neu dechnegwyr llwyfan – mae yna bobl a busnesau sy'n ffynnu ledled Cymru oherwydd yr amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n digwydd.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mwy o ddigwyddiadau cyffrous yn y blynyddoedd i ddod ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn parhau i ddarparu manteision gwirioneddol i bobl Cymru."