English icon English

Dim tâl am deithio ar fws yng Nghasnewydd ym mis Mawrth

Free bus travel across Newport during March

Bydd teithwyr ar fysiau yng Nghasnewydd ym mis Mawrth yn cael teithio am ddim, diolch i gynllun peilot newydd sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun, sy'n cael ei dreialu i annog pobl i deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy a gwyrddach, ar gael drwy'r dydd, bob dydd drwy gydol mis Mawrth ar wasanaethau bws ar draws ardal awdurdod lleol Casnewydd.

Hwyluswyr y cynllun yw Bwrdd Cyflawni Burns, a sefydlwyd i roi 58 o argymhellion Comisiwn Burns ar waith, bob un yn ceisio rhoi dewis arall i’r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn ne-ddwyrain Cymru fel nad oes gofyn defnyddio’r car preifat.

Mae Adroddiad Blynyddol Cadeirydd Burns a gyhoeddwyd heddiw yn disgrifio’r gwaith gafodd ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf ar y gwelliannau tymor hir i’r brif reilffordd. Mae’n canolbwyntio hefyd ar y mesurau mwy brys sy'n cael eu cymryd i wella’r dewis o gludiant yn yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Y treialon cyntaf yng Nghymru gyda storfeydd diogel yng Nghaerdydd a Chasnewydd i gadw beiciau
  • Peilot arloesol i wella’r gwaith cynnal a chadw ar lwybrau beiciau yng Nghaerdydd, i leihau’r risg o sgidio a rhwygo teiars; a
  • Gwella’r llwybrau teithio llesol i orsaf drenau Cyffordd Twnnel Hafren.

Mae'r Bwrdd hefyd wedi agor dau ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar ar ei gynigion i wella’r cysylltiadau beicio a bysiau rhwng Caerdydd a Chasnewydd a gwella’r ffordd fysiau i orsaf drenau Cyffordd Twnnel Hafren yn Sir Fynwy.

Wrth siarad yn ystod ei ymweliad â Depo Bysiau Casnewydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:

"Ar ôl blwyddyn o weithio'n glos gydag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru rydym nawr yn dechrau gweld ein cynlluniau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn y de-ddwyrain yn dwyn ffrwyth.

"Mae llawer i'w wneud o hyd, ond rwy'n sicr y byddwn yn dechrau gweld gwelliannau pwysig o fewn y 18 mis nesaf o ran teithio ar fysiau, beicio a cherdded, gyda mwy o newid tuag at drafnidiaeth gynaliadwy, yn enwedig i'r bobl hynny sy'n teithio rhwng Casnewydd a Chaerdydd.

"Rwy'n hyderus y bydd y cynllun bws am ddim yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw nid yn unig yn rhoi hwb i'r diwydiant bysiau a'r economi leol, ond hefyd yn annog mwy o bobl i newid i deithio mwy cynaliadwy."

Dywedodd yr Athro Simon Gibson CBE Cadeirydd Bwrdd Cyflawni Burns:

"Mae'r adroddiad hwn yn nodi rhai o'r pethau pwysig gafodd eu gwneud ym mlwyddyn gyntaf Bwrdd Cyflawni Burns a'r heriau sy’n parhau i’w wynebu. Rydym yn parhau i lywio ein ffordd o dan amgylchiadau anodd wrth ymdrin ag effeithiau eang Covid-19 sy'n newid trwy’r amser, gyda’r Argyfwng Hinsawdd yn gefndir iddo.

"Bydd ein gwaith yn gynyddol bwysig o ran helpu pobl y De-ddwyrain i roi’r gorau i ddefnyddio’u ceir preifat a defnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy ac rydym yn benderfynol o gynnal y lefel honno o ddatblygu a darparu gydol 2022 a thu hwnt."

Ychwanegodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

"Rwy'n croesawu'n fawr penderfyniad Bwrdd Cyflawni Burns a Llywodraeth Cymru i wneud y cynnig hwn a thalu am y cynllun mis o hyd.

"Ym mis Rhagfyr, talodd y Cyngor am gynnig tebyg a chael ymateb da gan drigolion a busnesau gyda chynnydd amlwg yn nifer y teithwyr bws o'i gymharu â'r un mis yn 2020.

"Mae gan y Cyngor berthynas waith ragorol gyda Bwrdd Cyflawni Burns a hoffwn ddiolch i'r bwrdd a Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth bwysig hon i'r ddinas a'i phobl.

"Gyda’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd i’w gweld ar wella a’r gwanwyn ar ein gwarthaf, dyma gyfle gwych i bobl roi cynnig ar ffyrdd eraill gwyrddach o deithio ond gan gadw’n lleol i gefnogi busnesau lleol. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a theuluoedd sy'n wynebu cynnydd yn eu costau byw wrth i’r gaeaf dynnu i’w derfyn."