English icon English

Disgwylir tarfu sylweddol ond bydd gofal brys yn parhau yn ystod ail streic meddygon iau

Significant disruption expected but urgent care to continue during second junior doctors strike

Bydd gofal brys a gofal mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol yn parhau i gael eu darparu yn ystod ail streic meddygon iau yng Nghymru yr wythnos hon, ond disgwylir y bydd tarfu sylweddol ar wasanaethau eraill.

Mae Pennaeth GIG Cymru, Judith Paget, hefyd wedi annog pawb i helpu i leihau'r baich ar y GIG drwy ystyried opsiynau eraill yn lle mynd i'r ysbyty, oni bai bod arnynt angen gofal brys.

Cyn y gweithredu diwydiannol a fydd yn dechrau ddydd Mercher, mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru bob amser yn agored i gael trafodaethau pellach ond nad oes ganddi'r gyllideb i gynyddu'r cytundeb cyflog.

Dywedodd Eluned Morgan: “Ry'n ni'n siomedig bod meddygon wedi penderfynu cymryd gweithredu diwydiannol pellach yng Nghymru, ond ry'n ni'n deall bod ganddyn nhw deimladau cryf am ein cynnig cyflog o 5%.

Mae ein cynnig ar lefel uchaf y sydd ar gael i ni ac mae'n adlewyrchu'r penderfyniad y daethom iddo gyda'r undebau iechyd eraill. Ond byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo'r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

"Ry'n ni wedi ymrwymo o hyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ac ry'n ni bob amser yn agored i gael rhagor o drafodaethau."

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget: “Fel yn ystod y streic ddiwethaf, rydyn ni'n croesawu'r dull cydweithredol o ymdrin â diogelwch cleifion sydd wedi'i ddefnyddio gan Gymdeithas Feddygol Prydain. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw a sefydliadau'r GIG i sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei amddiffyn yn ystod y gweithredu diwydiannol.

“Rydyn ni'n disgwyl y bydd tarfu sylweddol ar weithgareddau nad ydynt yn rhai brys a gweithgareddau dewisol yn ystod y gweithredu diwydiannol, gyda llawer o waith eisoes wedi'i ohirio. Yn ystod y streic ddiwethaf cafodd tua 41% o apwyntiadau cleifion allanol a 61% o lawdriniaethau eu gohirio ledled Cymru. Roedden ni'n disgwyl i wasanaethau yn ystod y gweithredu diwydiannol fod yn debyg i'r rhai sy'n cael eu darparu'n gyffredinol ar Ŵyl Banc.

‌“Er hynny, os oes gennych angen hollbwysig i fynd i adran achosion brys, dylech barhau i wneud hynny.

“Ond rydyn ni'n annog pawb i ystyried yr opsiwn gorau iddyn nhw, gan gynnwys y gwasanaeth 111 ar-lein neu dros y ffôn, neu eu fferyllfa leol.”